Bwlgaria

Gair am ein gwrthwynebwyr

Roedd cael tri gwahanol reolwr yn ddigon i darfu ar ymgyrch ragbrofol Ewro 2020 UEFA Bwlgaria wrth iddynt hawlio un fuddugoliaeth yn unig o’u wyth gêm grŵp.

Petar Hubchev oedd wrth y llyw ar ddechrau’r ymgyrch, ond daeth Krasimir Balakov i gymryd ei le ar ôl dwy gêm agoriadol gyfartal 1-1 yng Ngrŵp A yn erbyn Montenegro a Kosovo. Ac yntau’n aelod allweddol o dîm chwedlonol Bwlgaria a lwyddodd i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd FIFA 1994, methodd Balakov ag efelychu ei lwyddiant fel chwaraewr gyda’r tîm cenedlaethol, gan golli yn erbyn y Weriniaeth Tsiec, Kosovo a dwy golled drom yn erbyn Lloegr rhwng mis Mehefin a mis Hydref 2019. Daeth pwynt mewn gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Montenegro yng nghanol y dilyw o grasfeydd.

Daeth y rheolwr presennol, Georgi Dermendzhiev, i gymryd lle Balakov ar gyfer gêm derfynol yr ymgyrch a daeth eu hunig fuddugoliaeth diolch i gôl gan Vasil Bozhikov yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yn Sofia. Cyn ymgyrch ragbrofol Ewro 2020, roedd Bwlgaria wedi mwynhau ymgyrch lled-lwyddiannus yng Nghynghrair Cenhedloedd gyntaf UEFA, gan ennill dyrchafiad o Gynghrair C i Gynghrair B o dan Hubchev. Fe wnaethon nhw orffen dau bwynt y tu ôl i enillwyr y grŵp, Norwy, tîm y gwnaethant eu trechu 1-0 ym mis Medi 2018 diolch i gôl gan Radoslav Vasilev. Bydd y tîm nawr yn gobeithio bod pethau gwell i ddod yn y gystadleuaeth hon ar ôl blwyddyn ddigon anodd.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×