Bwlgaria yn troi at brofiad

GEORGI DERMENDZHIEV

Mae Ryan Giggs yn dal i fod yn wyneb gymharol newydd yn y byd rheoli, ond pan fydd Bwlgaria yn cyrraedd Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul, bydd rheolwr Cymru yn dod benben ag un o hen bennau mwyaf y gêm ryngwladol, Georgi Dermendzhiev.

Cafodd y cyn-amddiffynnwr 65 oed ei benodi fel rheolwr Bwlgaria ym mis Hydref 2019, y bennod ddiweddaraf yn ei yrfa hyfforddi a rheoli a ddechreuodd gyda Spartak Plovdi yn ei wlad enedigol ym 1998. Mae ei daith wedi mynd ag ef i saith o wahanol glybiau, gan gynnwys blwyddyn yn rheoli yn Kazakhstan, ac mae nawr wedi’i wobrwyo gyda’r her o arwain Bwlgaria i rowndiau terfynol yr Ewros yr haf nesaf wrth iddynt baratoi i wynebu Hwngari yn y gemau ail-gyfle.

“Mae ganddo beth fyddwn i’n ei alw’n ‘ddoethineb bywyd’',” eglurodd y newyddiadurwr pêl-droed o Fwlgaria, Stoyan Georgiev i FC Cymru pan ofynnwyd iddo am gryfderau rheolwr y tîm cenedlaethol. “Mae’n adnabod ei chwaraewyr yn dda iawn a sut i ddefnyddio eu nodweddion gorau, ac mae’n ffitio proffil hyfforddwr tîm cenedlaethol llwyddiannus oherwydd ei oedran a’i brofiad. Mae’n gwybod sut i greu amgylchedd positif, ond ei nodwedd bwysicaf yw ei allu i ennill pan fo’n cyfrif. Llwyddodd ddwywaith i arwain Ludogorets at gamau grŵp Cynghrair Pencampwyr UEFA, ac fe wnaeth ei dîm yn eithaf da yn erbyn timau fel Real Madrid, Lerpwl, Arsenal a Paris Saint-Germain.

“O dan ei ragflaenydd, Krasimir Balakov, fe chwaraeodd Bwlgaria system 4-1-4-1 gyda’r penderfyniad rhyfedd o roi Georgi Sarmov yng nghanol y cae,” ychwanegodd Georgiev. “Mae Dermendzhiev yn defnyddio system 4-2-3-1 gyda chwaraewyr gweithgar fel Kristiyan Malinov a Georgi Kostadinov yn diogelu’r pedwar yn y cefn. O dan Dermendzhiev, gorffennodd Bwlgaria ymgyrch ragbrofol Ewro 2020 gyda buddugoliaeth wych 1-0 gartref dros dîm cryf o’r Weriniaeth Tsiec. Dangosodd y tîm undod ac awydd, roeddent yn drefnus ac yn amyneddgar, yn aros am yr eiliad iawn i daro'r gwrthwynebwyr. Dangosodd y gêm hon yr hyn y gallwn ni ei ddisgwyl gan Dermendzhiev, a bydd yn parhau i’r cyfeiriad hwnnw, waeth beth a ddaw gyda’r canlyniadau.”

Fel chwaraewr, chwaraeodd Dermendzhiev dros 200 o gemau gan ennill cwpan Bwlgaria gyda Slavia Sofia ym 1980. Er hynny, ei lwyddiant fel rheolwr Ludogorets a ddaeth ag ef i sylw’r tîm cenedlaethol wrth iddynt ennill y gynghrair tair gwaith yn olynol rhwng 2015 a 2017. “Gellid dweud mai Dermendzhiev oedd y dewis a oedd yn gwneud y fwyaf o synnwyr oherwydd ei brofiad a’i lwyddiant yn Ludogorets,” eglurodd Georgiev.

“Ond hefyd gan mai ef oedd yr unig ddewis rhesymol oedd yn weddill. Cyn ei ddyddiau ef, roedd mawrion fel Hristo Stoichkov, Lubo Penev, Petar Hubchev a Krasimir Balakov wedi’u defnyddio a’u taflu o’r neilltu. Cafodd hyfforddwyr uchel iawn eu parch fel Stanimir Stoilov, Dimitar Dimitrov ac Ivaylo Petev eu penodi hefyd, tra bod tramorwyr fel Lothar Matthaus hefyd wedi cyfrannu. Ond methu a chyflawni a wnaeth pob un. Mae gan Dermendzhiev fwy yn gyffredin â’r arwr Dimitar Penev, hyfforddwr y ‘genhedlaeth aur’ a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan y Byd 1994.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×