Cymru dan ysbrydoliaeth

mike england

 

Roedd gôl gan yr eilydd Jeremy Charles yn ddigon i roi buddugoliaeth 1-0 i Gymru dros Fwlgaria pan ddaeth y ddwy wlad benben am y tro cyntaf erioed yn Wrecsam ym mis Ebrill 1983.

Roedd Ian Rush, Neville Southall, Kevin Ratcliffe, Joey Jones a Brian Flynn oll yn rhan o’r tîm a ddechreuodd y gêm ragbrofol honno ar gyfer Ewro 1984 ar y Cae Ras yn Wrecsam, ond Charles a gipiodd y pwyntiau gyda’i gôl ar ôl 78 munud ar ôl dod ymlaen yn lle Rush hanner ffordd drwy’r ail hanner.

Mike England oedd y rheolwr a lywiodd Cymru i’r fuddugoliaeth yn ystod ei gyfnod wrth y llyw gyda Chymru rhwng 1980 a 1988. Fodd bynnag, daeth ei fuddugoliaeth fwyaf cofiadwy yn ei gêm gyntaf erioed, ym muddugoliaeth 4-1 enwog Cymru dros Loegr ym mis Mai 1980. “Roedd hi’n ddiwrnod gwych,” eglurodd England mewn cyfweliad diweddar gyda Sgorio. “Roedd hi’n gêm wych ac fe wnaeth pawb ei mwynhau cymaint. Bydd yn ddiwrnod a fydd yn aros yn y cof am byth – mor arbennig.”

Mae’n syndod mai ei gyfnod gyda Chymru oedd yr unig swydd reoli a gafodd England erioed. Gan wneud ei enw fel cawr o amddiffynnwr gyda Tottenham Hotspur yn y 60au a’r 70au, fe wnaeth y dyn o Dreffynnon hefyd ymddangos i Gymru 44 o weithiau rhwng 1962 a 1974. Enillodd MBE am ei wasanaeth i bêl-droed, ac fe wnaeth England gyfraniad sylweddol hefyd fel chwaraewr yn America gyda’r Seattle Sounders. “Dod i Seattle oedd un o’r penderfyniadau gorau i mi eu gwneud erioed,” meddai England yn 2015.

Dechreuodd ei yrfa yn Blackburn Rovers, a buan iawn yr enillodd dipyn o sylw fel amddiffynnwr canol digyfaddawd. Enillodd Gwpan Ieuenctid yr FA wrth iddo ddatblygu drwy’r rhengoedd yn Ewood Park, ac ymunodd â Spurs yn y pen draw am £95,000 dros haf 1966. Er na lwyddodd i gyrraedd twrnamaint mawr gyda Chymru fel chwaraewr na rheolwr, enillodd England bedair tlws gyda Tottenham Hotspur, gan godi Cwpan yr FA ym 1967, Cwpan y Gynghrair ym 1971 ac ym 1973, a Chwpan UEFA ym 1972.

“Pan fydd pobl yn gofyn i mi am fy ngyrfa, rydw i wastad yn dweud fy mod i wedi gwneud rhywbeth rydw i wir wedi’i fwynhau ar hyd fy oes,” ychwanegodd. “I fod yn onest, dydw i heb weithio. Mae hynny’n swnio’n wirion ond doeddwn i byth yn teimlo fy mod i’n mynd i’r gwaith pan oeddwn i’n chwarae pêl-droed, achos mai dyna oeddwn i’n ei fwynhau. Roedd e’n wych.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×