Niall McGuinness

Arloesi yn ewrop

Yn ôl ym mis Chwefror 2016 cymerodd Niall McGuinness yr awenau yng nghlwb y Rhyl mewn ffrwydrad o gyhoeddusrwydd rhyngwladol.

Er ei fod yn bell o fod yn enw adnabyddus, ac yntau’n 24 oed, ef oedd y rheolwr ieuengaf i gymryd yr awenau yn un o brif glybiau Ewrop.

Gan oruchwylio’r academi a’r tîm ieuenctid yn Belle Vue ar y pryd, roedd yn amlwg bod McGuinness wedi targedu gyrfa yn y byd rheoli, ac roedd ei gysylltiad rhwng chwaraewyr ifanc y clwb a’r tîm cyntaf yn ei wneud yn benodiad naturiol wrth i’r clwb geisio sefydlogi pethau unwaith eto mewn tymor a oedd wedi bod yn un digon anodd. Daeth tro arall i’r stori hefyd wrth i'w dad Laurie ymuno ag ef fel ei gynorthwyydd.

“Mae’n bleser gweithio gydag ef,” meddai’r mab am ei dad wrth BBC Sport Wales yn dilyn ei benodiad. “Mae'n beth mawr mewn pêl-droed i fod ag ymddiriedaeth a pharch, ac mae gennym ni hynny, ac mae ganddo'r profiad, yr wybodaeth a'r angerdd. Byddwn ni’n bownsio oddi ar ein gilydd ac yn bwydo syniadau i'n gilydd. Mae'n golygu llawer i ni a does neb a fydd yn ymdrechu'n galetach na ni’n dau i'r tîm. Gan fy mod i’n llanc o’r Rhyl, mae'r swydd hon yn agos iawn at fy nghalon.”

Llwyddodd y clwb i osgoi disgyn i’r gynghrair oddi tanynt oherwydd elfen dechnegol, ond flwyddyn yn ddiweddarach cafodd y clwb eu hunain yn yr ail haen yn dilyn tymor anodd arall. Camodd McGuinness i lawr o’i swydd gyntaf ar y lefel hon ym mis Hydref 2017, ac yntau dal yn ddim ond 26 oed. Ond yn amlwg doedd y profiad heb ei greithio’n ormodol wrth iddo gydio yn yr awennau yn ei glwb presennol, Flint Town United.

“Profiad yw’r peth pwysicaf i unrhyw hyfforddwr ifanc,” eglurodd McGuinness i Sgorio yn ddiweddar wrth iddo adlewyrchu ar ei daith. “Rydych chi’n dysgu o’ch profiadau. Roedd e’n wych achos fe ges i fy nhaflu i’r pen dyfnaf ac fe wnes i ddysgu cymaint. Pe bawn i’n gwybod bryd hynny'r hyn dwi’n ei wybod nawr, efallai na fyddwn i wedi cymryd y swydd. Ond roeddwn i’n angerddol ac eisiau rhoi cynnig arni ar y lefel honno. Dwi’n meddwl y byddai unrhyw un gyda’r meddylfryd hwnnw wedi cymryd y swydd. Doedden ni ddim digon da yn y pen draw, ond nid diffyg ymdrech oedd wrth wraidd hynny, dim ond diffyg cysondeb.”

Nawr yn hŷn ac yn ddoethach oherwydd ei brofiad, mae McGuinness yn dychwelyd i’r lefel uchaf y tymor hwn wedi iddo arwain Flint Town United i’r JD Cymru Premier ar ôl tri tymor gyda’r clwb, ac mae eto i ddathlu ei ben-blwydd yn 30! “Mae’n llwyddiant anferth i’r clwb ac rydym ni’n edrych ymlaen at yr her,” ychwanegodd. “Rydw i wir yn edrych ymlaen at herio fy hun unwaith eto ar y lefel hon. Mae hi wedi bod yn broses raddol a doedd dim ateb sydyn gan fod gofyn i ni roi mwy o strwythur i bethau. Mae wedi bod yn waith caled, ond rydw i ar ben fy nigon i bawb sy’n rhan o’r clwb.”

Mae tymor newydd JD Cymru Premier yn dechrau’r penwythnos nesaf. Ewch i cymrufootball.wales i ddysgu rhagor.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×