Sylwadau o Flwch Gwasg

y Gwrthwynebwyr

Ymunodd y newyddiadurwr pêl-droed o Fwlgaria, Stoyan Georgiev, ag FC Cymru yn ddiweddar i drafod y tîm cenedlaethol cyn ymgyrch Cynghrair Cenhedloedd UEFA.

Stoyan yw is-olygydd a phennaeth pêl-droed y papur newydd dyddiol Meridian Match ym Mwlgaria, a gohebydd cenedlaethol ar gyfer UEFA.com

 

C. Mae’n siŵr fod yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 2020 wedi bod yn siomedig, pam na lwyddodd y tîm i berfformio?

A. Y gwir amdani yw mai dyma lefel y genhedlaeth bresennol. Yn anffodus, does dim modd cymharu ansawdd y tîm a thimau’r gorffennol. Fe welsom ni fflachiadau o obaith o dan Petar Hubchev oherwydd ei arddull, gan ei fod yn dibynnu ar amddiffynfa drefnus a gwrthymosodiadau, ac roedd yn cael y mwyaf allan o chwaraewyr. Daeth Krasimir Balakov yn ei le ac roedd e’n hollol wahanol. Roedd e’n chwaraewr ymosodol hollol anhygoel, ac mae’r un peth fel hyfforddwr, a dechreuodd Bwlgaria adael dipyn o goliau i mewn. Fe wnaeth Balakov ambell i benderfyniad tactegol rhyfedd hefyd, a cholli’n wael yn erbyn Lloegr a chael eu trechu hefyd gan Kosovo a’r Weriniaeth Tsiec. Collodd Bwlgaria eu hamddiffynfa weddol drefnus a daeth annibendod i ddilyn.

 

C. Mae’n rhaid bod cael tri rheolwr gwahanol yn ystod 2019 wedi tarfu ar y chwaraewyr. Pa mor hyderus ydych chi y gall y tîm setlo o dan Georgi Dermendzhiev a dechrau symud ymlaen unwaith eto?

A. Mae’r diffyg parhad wedi cael effaith negyddol. I ddechrau, roedd y newidiadau technegol a gwahanol ddulliau Hubchev a Balakov. Mae eu hathroniaeth yn hollol wahanol. Mae hi fel parcio bws gyda’r cyntaf, a pheidio â chael bws o gwbl gyda’r ail. Daeth ychydig o lonyddwch i’r grŵp gyda dyfodiad Georgi Dermendzhiev, ond dim ond am dair gêm mae wedi bod wrth y llyw hyd yma, gan gynnwys dwy gêm gyfeillgar. Hefyd, ar hyn o bryd, mae gan Dermendzhiev lawer o broblemau o ran ymosod. Mae’r capten Ivelin Popov wedi ymddeol o’r tîm cenedlaethol, mae Wanderson wedi’i anafu ac mae’r hen ben Marcelinho wedi gadael Ludogorets ac wedi dychwelyd i Frasil, tra bod Despodov yn absennol oherwydd y coronafeirws. Bydd y seren newydd Martin Minchev gyda’r tîm Dan 21, a fydd yn chwarae gemau rhagbrofol hynod bwysig. Bydd y sefyllfa hon yn gyfle i Dermendzhiev arbrofi o ran ymosod yn erbyn Iwerddon a Chymru.

 

C. Fe gafodd Bwlgaria brofiad positif yng Nghynghrair Cenhedloedd gyntaf UEFA gan ennill dyrchafiad i Gynghrair B. Faint ydych chi’n edrych ymlaen at yr ymgyrch hon a beth yw’r uchelgais?

A. Roedd hi’n gystadleuaeth bositif iawn i Fwlgaria ar ôl blynyddoedd o ddirywiad. Mae’r rheswm am hynny yn glir – roedd Bwlgaria yn wynebu timau a oedd ar yr un lefel, sydd bob tro yn gyfle i wneud yn dda. Yn anffodus, nid oes gan y tîm cenedlaethol ddigon o ansawdd i gystadlu yn erbyn y timau gorau yn Ewrop, tra bod y twrnamaint hwn yn gyfle i gyrraedd rowndiau terfynol Ewrop trwy’r drws cefn. Dyna’r achos nawr wrth i ni gwrdd â Hwngari gartref yn y gemau ail-gyfle ar gyfer yr Ewros. Nid yw Bwlgaria wedi llwyddo i gyrraedd twrnamaint mawr ers 2004, a nawr rydym ni un fuddugoliaeth i ffwrdd o wireddu’r freuddwyd. Mae’r gemau hyn yn erbyn Iwerddon a Chymru yn gyfle i’r chwaraewyr ddangos y cymeriad a’r cryfder meddyliol sydd eu hangen ar gyfer y gêm ail-gyfle ym mis Hydref. Bydd Bwlgaria yn gobeithio am berfformiadau da, ond gall y ffocws fod ar y gêm yn erbyn Hwngari.

 

C. Mae llawer o bobl yn cofio Cenhedlaeth Aur 1994. A yw hyn yn ysbrydoliaeth i’r chwaraewyr sydd wedi’u dilyn dros y 26 mlynedd diwethaf, neu a yw’n ychwanegu llawer o bwysau?

A. Roedd llwyddiant y genhedlaeth aur ym 1994 nid yn unig yn fendith, ond yn felltith hefyd. Llwyddodd y genhedlaeth honno i wireddu breuddwydion llawer o genedlaethau hynod dalentog a ddaeth o’u blaenau, ac roedd Bwlgaria ymhlith y cewri mawrion, ac yn eu trechu nhw hefyd. Ar y pryd, roedd y wlad gyfan wedi’i huno, a doedd dim terfyn ar y freuddwyd. Fe wnaeth llwyddiant y tîm roi llwyfan i chwaraewyr fel Dimitar Berbatov, Stilian Petrov a Martin Petrov serennu, ond y gwir amdani yw y gwnaeth pêl-droed yn gyffredinol ddirywio ym Mwlgaria o ran canfod a datblygu talent. Camodd sêr canol y 1990au i wahanol swyddi o fewn byd pêl-droed Bwlgaria. Roedd Hristo Stoichkov, Balakov, Hubchev a Luboslav Pebev oll yn hyfforddwyr timau cenedlaethol, tra penderfynodd Borislav Mihailov, Yordan Lechkov ac Emil Kostadinov ymgymryd â rolau mawr yn Undeb Pêl-droed Bwlgaria. Ond er gwaethaf eu hymdrechion, mae’r dirywiad yn amlwg, ac mae hynny hefyd oherwydd rhesymau mawr y tu hwnt i’w rheolaeth.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×