SARA HILTON

Y rheolwr benywaidd 

Haf diwethaf, cafodd Sara Hilton ei henwi yn rheolwr ar dîm newydd ac uchelgeisiol Menywod Nomadiaid Cei Connah.

Ymunodd Addysgwr Hyfforddwyr Ymddiriedolaeth CBDC ac Uwch Ddarlithydd Gwyddor Pêl-droed a Hyfforddi ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ag FC Cymru i rannu ei safbwyntiau ar ei thymor cyntaf yn y clwb a dyfodol y gêm fenywaidd yng Nghymru.

 

C. Mae’n glir fod uchelgais gan Nomadiaid Cei Connah i herio ar frig y gêm fenywaidd yng Nghymru. Pa mor gyffrous yw hi fod y clwb yn ymddiried ynddo ti i arwain y prosiect hwn?

A. Mae ymuno ag unrhyw dîm newydd yn gyffrous. Pan fo’r canfas yn wag, ac mae gennych chi’r rhyddid i adeiladu’r tîm rydych chi ei eisiau, mae’n wych. Mae fy agwedd i gyda’r clwb hwn yr un peth ag yr oedd gyda fy nghlybiau eraill, rydw i’n cadw meddwl agored ac yn sefydlu nodau a thargedau clir i’r staff a’r chwaraewyr. Mae’n gyfle gwych i roi yn ôl i’r gêm fenywaidd yma yng Ngogledd Cymru a gobeithio bydd y Nomadiaid yn herio timau ar y lefel uchaf dros y blynyddoedd nesaf. Dwi ddim yn credu y gallai unrhyw un ddadlau ein bod ni, ar y cyfan, wedi cael tymor cyntaf positif iawn, yn arbennig o ran cyrraedd rowndiau cynderfynol Cwpan Menywod CBDC cyn y cyfnod clo. Fe ddechreuon ni’r tymor gyda llawer o bwysau ar ein ysgwyddau, a dwi wir yn credu ein bod ni wedi gwireddu disgwyliadau.

 

C. Cyhoeddwyd yn ddiweddar y byddai’r gêm ddomestig fenywaidd yng Nghymru yn cael ei hailstrwythuro. Pa mor gyffrous yw hyn i glwb uchelgeisiol fel y Nomadiaid?

A. Wrth gwrs, fel llawer o glybiau eraill, rydym ni’n croesawu’r newid ac yn gobeithio y daw newidiadau positif yn ei sgil i’r gêm ar draws y gogledd a Chymru yn gyffredinol. Nid yw’r clwb wedi cuddio ei ddyheadau ar gyfer tîm y menywod, ac mae’r ailstrwythuro hwn bendant yn alinio â’r uchelgais hwnnw a’r weledigaeth ar gyfer dyfodol y clwb. Mae’n wych gweld gêm y menywod yn gwneud camau breision. Y cam mwyaf ymlaen yn fy marn i fydd cyflwyno’r gynghrair ddatblygu Dan 19. Bydd y gynghrair hon bendant yn pontio’r bwlch hwnnw rhwng pêl-droed ar y lefel iau a'r tîm cyntaf o fewn gêm y menywod.

 

C. Mae CBDC erbyn hyn yn cynnig cyrsiau hyfforddi wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer y gêm fenywaidd. Faint o gam blaengar ymlaen yw hwn, a pham?

A. Mae CBDC, yn benodol Nicola Anderson, Cydlynydd Addysg Hyfforddwyr Benywaidd, wedi gweithio’n ddiflino dros y blynyddoedd i nodi rhwystrau posibl i hyfforddwyr benywaidd a hyfforddwyr o fewn y gêm fenywaidd. Nid yw’n golygu cymryd hyfforddwyr benywaidd oddi wrth y cyrsiau rhanbarthol; ond yn hytrach rhoi llwyfan amgen iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau hyfforddi. Rydw i wedi bod yn ymwneud â’r Gwobrau Arweinwyr Pêl-droed, Tystysgrif C y Gêm Fenywaidd a’r cyrsiau Trwydded B UEFA benywaidd dros y blynyddoedd. Mae ansawdd yr hyfforddwyr sy’n dod trwy’r system, eu gallu naturiol a’u parodrwydd i ddysgu, ond yn gallu bod yn beth da i’r gêm fenywaidd yng Nghymru.

 

C. Wyt ti’n teimlo bod digon o ymgeiswyr benywaidd â diddordeb mewn astudio cymwysterau hyfforddi yng Nghymru ar hyn o bryd? O’r profiadau a’r heriau rwyt ti wedi’u hwynebu, beth fyddai dy gyngor i unrhyw fenywod sy’n ystyried camu mewn i’r byd hyfforddi, ond sy’n ansicr?

A. Mae bob amser yn anodd gan fod llai o hyfforddwyr nag ar gyfer gêm y dynion, felly efallai na fydd cymaint o gyrsiau bob tymor. Ond pan fydd y cyrsiau'n rhedeg, maen nhw'n boblogaidd iawn. Unwaith eto, gyda'r holl waith yn cael ei wneud y tu ôl i'r llenni, mae nifer yr hyfforddwyr benywaidd yng Nghymru yn sicr ar ei fyny. Fy nghyngor i unrhyw un sy'n ystyried dechrau hyfforddi fyddai: EWCH AMDANI! Does dim sy’n fwy gwerth chweil! Mae'n ddyletswydd arnom ni i ddangos i ferched ifanc y gallant fod yn llwyddiannus yn y gêm. Mae'r gêm wedi symud ymlaen gymaint dros y degawd diwethaf, ond mae angen i ni ddal ati i wthio ar yr un llwybr er mwyn parhau i adeiladu'r gêm fenywaidd yma yng Nghymru.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×