BWLGARIA
Hen ben y tîm a ddychwelodd i’w Fwlgaria frodorol ym mis Mai 2019 wrth ymuno â CSKA Sofia ar ôl cyfnodau yn yr Wcráin a Rwsia
Ac yntau’n wreiddiol o Blagoevgrad, dechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda’r tîm lleol Pirin yn 2003 ar ôl dod drwy’r rhengoedd ieuenctid cyn symud i Litex Lovech ddwy flynedd yn ddiweddarach. Daeth cyfnodau ar fenthyg yn Sbaen gyda Celta Vigo a Racing Ferrol i ddilyn cyn iddo ddychwelyd i Litex ac ymddangos dros 100 o weithiau i’r clwb. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf ym mis Tachwedd 2006 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Slofacia ac mae ganddo 43 o gapiau i’w wlad. Daeth yn gapten ar y tîm am y tro cyntaf yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2018.