Cynghrair Cenhedloedd UEFA

YR YMGYRCH GYNTAF ERIOED

Cafodd Cynghrair Cenhedloedd UEFA dipyn o groeso i’r calendr pêl-droed rhyngwladol, ac fe ddaeth â nifer o elfennau positif yn ei sgil i reolwr Cymru, Ryan Giggs yn ei flwyddyn gyntaf yn y swydd.

Wrth i Gymru ddychwelyd i gystadlu am yr ail dro, dyma’ch atgoffa o hynt a helynt y gyfres gyntaf o gemau a welodd carfan ifanc Giggs yn colli allan ar ddyrchafiad i Gynghrair A o drwch blewyn.

Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon – 6 Medi 2018, Caerdydd

Sgoriodd Tom Lawrence yn y chwe munud cyntaf wrth iddo fanteisio ar bêl wych gan Joe Allen, a dyblodd Gareth Bale y fantais 10 munud yn ddiweddarach gydag ergyd arbennig. Cafodd Aaron Ramsey gymorth y seren ifanc Ethan Ampadu i sgorio’r drydedd ychydig cyn hanner amser a dathlodd Connor Roberts ei gêm gyntaf i Gymru gyda foli fendigedig ddechrau’r ail hanner. Sgoriodd Iwerddon gôl gysur ar ôl 66 munud wrth i gamgymeriad prin gan Ramsey roi’r bêl i Shaun Williams, a llwyddodd hwnnw i ganfod y rhwyd y tu ôl i Wayne Hennessey.

Denmarc 2-0 Cymru – 9 Medi 2018, Aarhus

Cafodd Ramsey a Bale ill dau gyfleoedd i roi Cymru ar y blaen yn hanner cyntaf y gêm, tra ar yr ochr arall, aeth ergyd Thomas Delaney fymryn yn llydan o gôl Wayne Hennessey. Llwyddodd Denmarc i dorri drwy amddiffynfa Cymru ar ôl i Christian Eriksen golli’r amddiffynwyr yn y blwch 18 llath ac ergydio’r bêl yn wych heibio Hennessey ar ôl 32 munud. Ar ôl awr o chwarae, cafodd Ampadu ei gosbi gan y dyfarnwr o’r Almaen, Deniz Aytekin, a gredodd iddo lawio’r bêl yn y blwch 18 llath. Camodd Eriksen i’r smotyn ac anfon Hennessey y ffordd anghywir i’w gwneud hi’n 2-0.

Gweriniaeth Iwerddon 0-1 Cymru – 16 Hydref 2018, Dulyn

Er gwaethaf hanner cyntaf bratiog a digon di-nod, daeth ennyd o hud a lledrith gan Harry Wilson i gipio’r fuddugoliaeth i Gymru. Ar ôl 58 munud, cymerodd Wilson gic rydd anhygoel a hedfanodd heibio’r gôl-geidwad Darren Randolph i yrru’r cefnogwyr oddi cartref yn wyllt. Roedd perfformiad ysbrydoledig gan gapten Cymru, Ashley Williams, yn ddigon i sicrhau mai Cymru fyddai’n mynd â hi er gwaethaf pwysau gan Iwerddon tuag at ddiwedd y gêm. Gallai’r eilydd George Thomas fod wedi dyblu’r sgôr i Gymru, ond cafodd ei wadu o agos gan Randolph cyn i’r dyfarnwr ddirwyn y gêm i ben.

Cymru 1-2 Denmarc – 16 Tachwedd 2018, Caerdydd

Gyda stadiwm Caerdydd dan ei sang, daeth hwb pellach wrth weld Giggs yn dewis tîm ymosodol ar gyfer y gêm dyngedfennol hon. Roedd hi’n ornest a hanner, gyda Denmarc yn mynd ar y blaen drwy Nicolai Jorgensen. Cafodd Cymru gyfleoedd drwy David Brooks, Tyler Roberts a Bale, ond sgoriodd Martin Braithwaite ar ôl 88 munud i roi’r ymwelwyr ar y blaen 2-0 wrth i’w ergyd gadarn drechu Wayne Hennessey wrth y postyn agosaf. Daeth ymateb dramatig gan Gymru pan lansiwyd pêl uniongyrchol ymlaen a laniodd yn daclus wrth draed Bale. Llwyddodd Bale i ganfod cefn y rhwyd ar ôl trechu Kasper Schmeichel, ond daliodd Denmarc eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×