Cymro'n rheloi dramor

Hanes Barry Hughes

Mae Louis van Gaal a Ruud Gullit yn ddau o enwau pêl-droed mwyaf yr Iseldiroedd, ond mae un ffigwr dylanwadol sy’n rhan o stori’r ddau yn Gymro llai adnabyddus a wnaeth enw i’w hun yn yr Iseldiroedd yn ystod tair degawd o chwarae, hyfforddi a rheoli.

Cafodd ei eni yng Nghaernarfon ar Nos Galan 1937, a daeth Barry Hughes trwy'r rhengoedd ieuenctid yn West Bromwich Albion, cyn symud i'r Iseldiroedd ym 1960 i chwarae i Blauw-Wit ac Alkmaar '54. Fodd bynnag, fel hyfforddwr y daeth gwir botensial Hughes i’r amlwg, a rhwng 1965 a 1988 roedd yn rheolwr ar saith clwb gwahanol yn system ddomestig yr Iseldiroedd, gan gynnwys dau gyfnod yn HFC Haarlem a Sparta Rotterdam.

Ac yn ystod ei gyfnod cyntaf yn Sparta Rotterdam ym 1980 y croesodd Hughes lwybrau gyda Louis van Gaal. “Fe oedd y capten pan gyrhaeddais i,” esboniodd Hughes yn ôl yn 2014. “Roedd yn chwaraewr canol cae, ac yn un da. Dim fe oedd y cyflymaf, ond roedd yn gallu gweld sefyllfaoedd. Ro’n i wedi clywed straeon am sut yr oedd yn arfer mynd i mewn i swyddfa'r rheolwr. Pan gymerais i’r awenau fe ffoniodd fi i ddweud ei fod eisiau siarad am y tîm. Fe ddywedais i wrtho nad oedd gen i ddiddordeb yn ei farn ef, a bod angen i mi ffurfio fy marn fy hun am y chwaraewyr. Fe wnes i gymryd y gapteniaeth oddi arno a dydw i ddim yn credu ei fod yn fy hoffi i oherwydd hynny! Er imi ei wneud yn gapten eto yn fy nhrydydd tymor.”

Er efallai nad oedd gan Hughes a van Gaal y berthynas agosaf, roedd hi'n stori wahanol pan ddaeth i Gullit. Llwyddodd Hughes i ddenu’r seren ifanc i HFC Haarlem am oddeutu £1,000 ym 1978. Lai na degawd yn ddiweddarach, enillodd y Ballon d’or-. “Fe wnes i ddod o hyd i’r diemwnt yma o’r enw Gullit a oedd angen fymryn o sglein,” esboniodd Hughes. “Ond hyd yn oed yn 16 oed ro’n i’n gwybod y byddai’n dod yn un o chwaraewyr mwyaf y gêm, ac fe ddywedais i hynny wrtho. Roedd yn chwaraewr o safon mewn tîm Haarlem gwael. Cymerodd flwyddyn i mi ei lofnodi gan fod ei dad eisiau iddo fynd i'r ysgol a chael ei dystysgrif, ond roedd yn werth aros amdano. Yna fe symudodd i Feyenoord, ac mae'r gweddill yn hanes.”

“Fy hyfforddwr yn Haarlem, Barry, a ddysgodd wersi pêl-droed i mi,” eglurodd Gullit flynyddoedd lawer ar ôl cymryd ei gamau cyntaf yn y gêm broffesiynol. Ymddeolodd Hughes i Amsterdam yn ddiweddarach, a bu farw yn anffodus ym mis Mehefin y llynedd yn 81 oed, tra bod ei gyfraniad i'r gêm yn parhau i fod yn fwy adnabyddus yn ei wlad fabwysiedig na’i Gymru enedigol.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×