Brian Flynn yn arwain  

cenhedlaeth ifanc gyrion llwyddiant 

 

2004 oedd hi pan ddechreuodd John Toshack ar ei ail gyfnod fel rheolwr Cymru a dechrau prosiect i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr.

Profodd y penderfyniad i benodi Brian Flynn i oruchwylio’r timau canolraddol yn ystod y cyfnod hwn i fod yn un ysbrydoledig.

 

Dros y chwe blynedd nesaf datblygodd chwaraewyr fel Chris Gunter, Aaron Ramsey, Sam Vokes, Wayne Hennessey, Jack Collison, Andy King, Neil Taylor, Joe Allen, Gareth Bale ac enwau cyfarwydd eraill drwy’r rhengoedd, gan arwain at ddwy gêm ail gyfle yn erbyn Lloegr am y cyfle i ennill lle ym Mhencampwriaeth Ewro Dan 21 UEFA 2009 yn Sweden.

Er canfod eu hunain mewn grŵp rhagbrofol hynod heriol gyda Ffrainc, Rwmania, Bosnia a Herzegovina yn ogystal â Malta, Cymru oedd enillwyr y grŵp, a hynny wedi buddugoliaeth gadarn 3-0 oddi cartref yn erbyn Rwmania ar ddiwrnod terfynol yr ymgyrch. Gan ennill chwech o’u wyth gêm grŵp, llwyddodd Cymru i orffen uwchben Ffrainc a sicrhau’r ornest dau gymal yn erbyn Lloegr.

Dechreuodd yr ymgyrch ragbrofol gyda cholled 1-0 i Ffrainc ym mis Medi 2007, gyda Neil Eardley yn sgorio i’w rwyd ei hun yn Grenoble. Ond daeth dwy fuddugoliaeth gartref (3-1 a 4-0) yn olynol dros Malta a Bosnia a Herzegovina yn hwyrach y flwyddyn honno i roi’r tîm mewn hwyliau hyderus wrth i Ffrainc baratoi i ymweld â Pharc Ninian ym mis Tachwedd y flwyddyn honno.

Daeth hatric gan yr ergydiwr Ched Evans ac ergyd bellach gan Mark Bradley i roi buddugoliaeth enwog 4-2 i dîm ifanc Flynn ar y noson. Daeth buddugoliaethau pellach oddi cartref yn erbyn Malta a Bosnia a Herzegovina ddechrau 2008, ond wrth golli 1-0 gartref yn erbyn Rwmania ym mis Awst, roedd yn rhaid i Gymru ennill yn eu herbyn oddi cartref ar y diwrnod terfynol.

Ac fe ddaeth y fuddugoliaeth diolch i goliau gan Rhys Williams, Simon Church a Rhoys Wiggins i orffen uwchben Ffrainc ac ennill y grŵp. Fodd bynnag, ar y pryd, dim ond lle i wyth tîm oedd yn y rowndiau terfynol, ac roedd yn rhaid wynebu Lloegr mewn gêm ail-gyfle dros ddau gymal er mwyn penderfynu pwy a fyddai’n cystadlu yn Sweden y flwyddyn ganlynol.

Daeth dwy gôl gan Church i Gymru yn y gêm agoriadol ym Mharc Ninian, ond sgoriodd David Wheater, Adam Johnson a Gabriel Agbonlahor i dîm Stuart Pearce i roi buddugoliaeth 3-2 i Loegr. Sgoriodd Church eto yn yr ail gêm yn Villa Park, ynghyd â Ramsey, ond daeth gôl gan Tom Huddlestone ac fe sgoriodd Sam Vokes i’w rwyd ei hun, a daeth y gêm i ben yn gyfartal, gyda Lloegr yn ennill 5-4 dros y ddwy gêm.

Ond y llwyddiant go iawn i Gymru oedd y profiad a fagwyd, ac o fewn cwpl o flynyddoedd wedi’r siom hwnnw, roedd y rhan fwyaf o garfan Flynn wedi sefydlu eu hunain fel sêr y tîm cyntaf o dan Toshack a’i olynydd, y diweddar Gary Speed. Mae dyrchafu chwaraewyr ifanc drwy’r rhengoedd wedi dod yn batrwm i Gymru ers y cyfnod hwnnw, dull y mae’r rheolwr presennol Ryan Giggs wedi mynd ag ef i lefel arall ers ei benodiad.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×