Bwrw golwg dros ein gwrthwynebwyr

Eu Hoes Aur

Yr Unol Daleithiau yn creu hanes yng Nghwpan y Byd 2002

Roedd cynnal Cwpan y Byd 1994 FIFA yn ddigwyddiad nodedig i bêl-droed yr Unol Daleithiau, ac er i’r tîm gyrraedd yr 16 tîm terfynol ar eu tir eu hunain, yn 2002 daeth eu safle gorau erioed yn y twrnamaint wrth i dîm Bruce Arena gyrraedd rowndiau’r wyth olaf cyn colli i’r pencampwyr yn y pen draw, yr Almaen. Sgoriodd Michael Ballack unig gôl y gêm wrth i’r Unol Daleithiau golli yn nhre Ulsan yn Ne Korea.

Yng Ngrŵp D gyda Phortiwgal, De Korea a Gwlad Pwyl, dechreuodd twrnamaint yr Unol Daleithiau mewn steil gyda buddugoliaeth 3-2 dros dîm o Bortiwgal a oedd yn cynnwys mawrion fel Vítor Baía, Rui Costa a’r enwog Luis Figo. Diolch i John O'Brien, aeth yr Unol Daleithiau ar y blaen yn y pum munud cyntaf, a dyblwyd y fantais pan sgoriodd Jorge Costa i’w rwyd ei hun. Trwy ryw wyrth, aeth yr Unol Daleithiau dair gôl ar y blaen ar ôl 36 munud trwy Brian McBride, ond daeth gôl gan Beto cyn hanner amser i roi llygedyn o obaith i dîm António Oliveira. Sgoriodd Jeff Agoos i’w rwyd ei hun ar ôl 71 munud gan arwain at ddiweddglo pryderus iawn, ond daliodd tîm Arena eu gafael ar eu mantais i sicrhau buddugoliaeth enwog.

Yna teithiodd yr Unol Daleithiau i Daegu i wynebu De Korea a oedd yn cyd-gynnal y twrnamaint, a’u rheolwr profiadol o’r Iseldiroedd, Guus Hiddink. Fe lwyddon nhw i sgorio hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf trwy Clint Mathis. Tarodd South Korea yn ôl trwy’r eilydd Ahn Jung-hwan yng nghamau olaf y gêm a daeth yr ornest i ben yn gyfartal. Er iddynt golli 3-1 i Wlad Pwyl yng ngêm olaf y grŵp, gyda Landon Donovan yn sgorio gôl gysur, roedd yr Unol Daleithiau eisoes wedi cymhwyso ar gyfer y cam nesaf trwy ddod yn ail.

Gyda Mecsico yn eu disgwyl yn yr 16 olaf, roedd cryn dipyn o gynnwrf am y gêm a fyddai’n digwydd yn ninas Jeonju. Yr Unol Daleithiau a ddeliodd â’r sefyllfa orau, a daeth goliau gan McBride a Donovan i sicrhau buddugoliaeth 2-0 iddyn nhw. Mewn gêm lle gwelwyd deg cerdyn melyn, doedd dim syndod gweld capten Mecsico Rafael Márquez yn cael ei anfon oddi ar y cae gyda'r gêm yn agosáu at ei therfyn, wrth i rwystredigaeth gael y gorau o’r tîm a oedd yn colli.

Er y daeth eu twrnamaint i ben yn erbyn yr Almaen, mae Arena yn ystyried y fuddugoliaeth yn erbyn Portiwgal yn y gêm agoriadol fel un o’r gemau mwyaf arwyddocaol yn hanes y tîm cenedlaethol. “Dwi’n cofio crio,” eglurodd wrth adlewyrchu ar y fuddugoliaeth flynyddoedd yn ddiweddarach. “Rhedeg draw at ein cefnogwyr a bloeddio dathlu gyda nhw am y 10 munud nesaf, a dwi’n cofio taflu fy nghrys, gan rannu’r foment yma gyda’r holl bobl a oedd wedi teithio i’n cefnogi ni, a gallu rhannu yn y llwyddiant anhygoel yma. O’r foment honno ymlaen, doedden ni ddim bellach yn cael ein hystyried fel un o’r gwledydd hynny a oedd â disgwyliadau eithaf isel.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×