Rhifyn Chwaraewyr FC CYMRU – Gôl-geidwaid ac Amddiffynwyr

Triawd amddiffynnol Cymru a enillodd glod a bri yn Everton

Nid yw llwyddiant Ewropeaidd yn rhywbeth dieithr i Carlo Ancelotti, ac ar hyn o bryd mae’r rheolwr cyfrwys o’r Eidal yn arwain oes newydd ym Mharc Goodison.

Ond dim ond unwaith erioed mae Everton wedi profi gogoniant ar y llwyfan Ewropeaidd yn eu hanes hir a balch, ac roedd hynny gyda thri Chymro wrth wraidd yr amddiffynfa a oedd yn gonglfaen i’w llwyddiant domestig ac Ewropeaidd yn ystod yr 1980au.

Kevin Ratcliffe yw’r unig gapten erioed i godi tlws Ewropeaidd yn lliwiau Everton. Gan arwain ei dîm ar y cae ar gyfer rownd derfynol Cwpan Enillwyr Ewrop UEFA yn Rotterdam ar 15 Mai 1985, fe wnaeth buddugoliaeth 3-1 dros Rapid Vienna saethu’r clwb i lefelau newydd wrth i goliau gan Andy Gray, Trevor Steven a Kevin Sheedy drechu’r clwb o Awstria. Er hynny, gyda’r fuddugoliaeth hwnnw daeth diwedd ar glybiau Lloegr yn cystadlu ar lwyfan Ewrop, wrth i’r gwaharddiad a ddaeth yn sgil trychineb Stadiwm Heysel ddod i rym.

Fe wnaeth Ratcliffe ymddangos i Gymru 59 o weithiau rhwng 1981 a 1993, ac roedd yn gapten rheolaidd ar ei wlad yn ystod ei yrfa ryngwladol. Yn ei anterth yn ystod oed aur Everton, gwelodd y rheolwr Howard Kendall y rhinweddau arwain yn yr amddiffynnwr, a daeth y ddeuawd yn un â’r llwyddiant a fwynhaodd y clwb yn ystod y cyfnod hwnnw.

Ochr yn ochr â Ratcliffe y noson honno yn Rotterdam oedd un arall o amddiffynwyr Cymru, Pat Van Den Hauwe. Hen ben a oedd wedi chwarae dros 400 o gemau yn ystod ei yrfa broffesiynol, gan gynnwys cyfnodau gyda Birmingham City a Tottenham Hotspur, chwaraeodd Van Den Hauwe ei gêm gyntaf i Gymru fis cyn i Everton godi eu hunig dlws Ewropeaidd, a hynny yn y fuddugoliaeth 3-0 enwo yn erbyn Sbaen ar y Cae Ras. Chwaraeodd ddwsin o gemau eraill i Gymru dros y pedair blynedd nesaf.

Ond er bod y delweddau o Ratcliffe yn codi’r tlws yn diffinio’r noson honno, presenoldeb y gŵr y tu ôl i’r capten a Van Den Hauwe sy’n parhau i fod yn o’r ffigurau mwyaf dylanwadol yn hanes y clwb. Ac yntau’n cael ei ystyried fel y gôl-geidwad gorau yn y byd yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd Neville Southall yn cyflawni’n gyson i’w glwb a’i wlad yn ystod ei yrfa hir a nodedig. Cyrhaeddodd y clwb gyntaf o Bury ym 1981, a byddai’r dyn o Landudno yn ymddangos i Everton bron i 700 o weithiau dros yr 17 mlynedd nesaf.

Roedd hefyd yn arwr yn lliwiau Cymru rhwng 1982 a 1997, ac fe chwaraeodd mewn 92 o gemau i’w wlad. Ond fel llawer o fawrion llwyddiannus eraill yr un cyfnod, methodd â chyrraedd rowndiau twrnamaint mawr. O dan reolaeth Terry Yorath, daeth Cymru yn boenus o agos at ennill lle yng Nghwpan y Byd FIFA 1994. Mae chwaraewyr fel Southall a Ratcliffe yn ffigurau a oedd yn diffinio’r oes odidog yn Everton, ac yn llawn haeddu dangos eu doniau ar y llwyfan rhyngwladol fwyaf. Ac er gwaethaf popeth a gyflawnodd y ddau, bydd wastad elfen o ‘beth fyddai wedi gallu bod’ i hanes gyrfa’r ddau.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×