Cymru Dan 21

Y llwybr tuag at gynnydd rhyngwladol

Dechreuodd ymgyrch Cymru yn ôl ym mis Medi 2019 gyda buddugoliaeth 1-0 enwog dros Wlad Belg ar y Cae Ras.

Ers hynny, bu’r canlyniadau’n gymysg, a bydd y rheolwr Paul Bodin yn gobeithio y gall ei garfan ddirwyn y daith ragbrofol hir hon i ben ar nodyn cadarnhaol cyn y gemau sy'n weddill yn erbyn Moldofa a'r Almaen. Ond mae llawer mwy i'r tîm hwn na'r canlyniadau yn unig, a'r llwybr cadarn i garfan gyntaf Ryan Giggs sy'n dangos y gwir lwyddiant. Yn ystod yr ymgyrch ragbrofol Dan 21 hon, mae Rhys Norrington-Davies, Brennan Johnson, Dylan Levitt a Ben Cabango ill pedwar wedi chwarae dros Gymru, ac maent oll wedi bod yn rhan o'r garfan gyntaf ers i’r chwarae ailddechrau, gyda chwaraewyr eraill fel Regan Poole yn cael blas o’r awyrgylch hwnnw hefyd.

“Fe wnaethon ni hyfforddi ochr yn ochr â’r tîm cyntaf ym mis Medi ac roedd yn wych gweld Ryan Giggs a Rob Page yn dod draw i wylio rhan olaf ein sesiwn,” esboniodd Bodin. “Mae pawb yn gweld y llwybr yn glir. Mae'n rhaid i chi fod yn realistig, os ydych chi'n tynnu pump neu chwech o chwaraewyr allan o'r garfan hon i'w symud i fyny i'r tîm hŷn, mae’n amlwg fod hynny am leihau'r gallu yn eich carfan. Rydw i wedi bod yn gweithio am wyth mlynedd yn y setup, a does neb yn fwy balch nac yn hapusach na fi a'r hyfforddwyr pan welwn ni chwaraewyr yn symud yn eu blaen. Mae'n rhaid rhoi clod dyledus i Ryan [Giggs] a Chris Coleman, am i’r ddau ohonyn nhw roi cyfleoedd i chwaraewyr ifanc. Mae'n gwella carfan y tîm cyntaf ac yn rhoi cyfle i fynd ymlaen i chwarae i Gymru ar lefel uwch, sy'n llwyddiant gwych i unrhyw un sy'n gwneud hynny." 

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×