Cymru dan 21

Yr ymgyrch hyd yn hyn

Roedd gôl gynnar gan Brennan Johnson yn ddechrau perffaith i dîm Paul Bodin yn erbyn Gwlad Belg ar y Cae Ras ym mis Medi 2019, a dangosodd y tîm ddoniau anhygoel i ddal eu gafael ar y fantais a churo un o’r timau y mae llawer yn disgwyl a fydd yn herio ar frig y grŵp.

Fodd bynnag, byddai'r Almaen yn cyrraedd Wrecsam rai dyddiau'n ddiweddarach, ac roedd yr ornest flaenorol yn rhybudd iddynt beidio â chymryd y tîm cartref yn ganiataol. Er i Gymru greu llond llaw o gyfleoedd cynnar, ac i Mark Harris drosi o’r smotyn yn gynnar yn yr ail hanner, profodd yr Almaen i fod yn wrthwynebwyr llawer yn rhy gryf, gan hawlio buddugoliaeth 5-1, gyda Robin Hack yn sicrhau hatric yn y broses. Daeth y tîm wyneb yn wyneb â Moldofa yn Orhei ym mis Hydref y llynedd, ond er i Nathan Broadhead roi Cymru ar y blaen, sgoriodd Alexandr Belousov gôl y naill ochr i’r hanner i roi’r fuddugoliaeth i Foldofa.

Fis yn ddiweddarach, daeth tîm Cymru at eu hunain gyda buddugoliaeth drawiadol 1-0 dros Bosnia a Herzegovina wrth i Liam Cullen sgorio unig gôl y gêm ar ôl 71 munud. Yn wir, roedd yn ddiwrnod cofiadwy i Gymru ar bob lefel wrth i’r garfan dan 19 gymhwyso ar gyfer y rownd Elît yn gynharach y prynhawn hwnnw, a gyda thîm Ryan Giggs yn cadarnhau eu lle yn Ewro 2020 gyda buddugoliaeth 2-0 dros Hwngari yng Nghaerdydd y noson honno. Ond wedi hynny, daeth pandemig COVID-19 i roi stop ar y chwarae tan fis Medi, pan sgoriodd Ševkija Resić yr unig gôl i Bosnia a Herzegovina yn Zenica, gan dalu’r pwyth yn ôl am y canlyniad blaenorol yn Wrecsam. Fis diwethaf, llwyddodd dwy gôl gan Albert Sambi Lokonga i danio ysbryd Gwlad Belg, wrth iddynt sicrhau buddugoliaeth bendant 5-0 yn Leuven, gan adael Cymru ar waelod Grŵp 9 cyn y ddwy gêm olaf yn erbyn Moldofa heno a’r Almaen ddydd Mawrth.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×