Moldofa dan 21

Yr ymgyrch hyd yn hyn

Dechrau digon siomedig a gafodd Moldofa i’r ymgyrch, gan golli 4-0 yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn Sarajevo yn ôl ym mis Mawrth 2019.

Fodd bynnag, daeth y tîm yn ôl yn gryfach wrth groesawu tîm Dan 21 Cymru mis Hydref y llynedd. Profodd dwy gôl gan Alexandr Belousov yn ddigon i hawlio buddugoliaeth 2-1 yn Orhei. Ond ni pharhaodd y llwyddiant yn hir serch hynny, a chollodd y tîm 4- 1 yng Ngwlad Belg, gyda Maxim Cojocaru yn sgorio gôl gysur i’r tîm yn Leuven. Yr un oedd y sgôr ym mis Tachwedd 2019 yn ystod gêm galed arall yn erbyn yr Almaen yn Wiesbaden, gydag Artiom Carastoian yn sgorio’r unig gôl i Moldofa.

Chwaraeodd y tîm eto ym mis Medi eleni, y tro hwn yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn Chișinău, ac er i Amar Beganović roi’r gwrthwynebwyr ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner, dangosodd Moldofa eu dannedd wrth i Artur Craciun unioni’r sgôr gyda chic o'r smotyn, a hynny â dau funud yn unig yn weddill o’r gêm. Fis diwethaf, profodd yr her o wynebu’r Almaen yn Chișinău yn ormod, wrth i’r ymwelwyr drechu Moldofa 5-0, gyda Lukas Nmecha yn sgorio ddwywaith. Ond daeth ymateb digon cadarnhaol gan y tîm yn Tiraspol rai dyddiau yn ddiweddarach, wrth i gôl Denis Furtună hawlio buddugoliaeth enwog dros Wlad Belg.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×