Yr wythnos hon mewn hanes

Cymru Dan 21 2-1 Armenia Dan 21 – 13 Tachwedd 2015

Aeth tîm Geraint Williams ati’n syth, pan sgoriodd yr ergydiwr Ellis Harrison o’r smotyn o fewn 10 munud agoriadol y gêm Ewro ragbrofol hon.

Fodd bynnag, sgoriodd Gor Malakyan ar yr awr i synnu’r dorf ac unioni’r sgôr yn Nantporth, Bangor. Edrychai’n fwyfwy tebygol y byddai diweddglo rhwystredig i Gymru, ond sgoriodd Harry Wilson yn y funud olaf i sicrhau tri phwynt i Gymru. Daeth Cymru yn bedwerydd yn y grŵp yn y pen draw.

Cymru Dan 21 XI: O'Brien, Shephard, Lockyer, Yorwerth, Sheehan, O'Sullivan, John, Evans, Harrison, Burns, Wilson.

Eilyddion: Jones, Hedges, Charles, Crowe, Wright, Evans, Thompson.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×