Bwrw golwg dros ein gwrthwynebwyr – Eu hoes aur

GWERINIAETH IWERDDON YN CREU HANES YNG NGHWPAN Y BYD 1990

O Pavarotti i ddagrau Paul Gascoigne, mae gan bawb eu hatgof eu hunain o Italia 90 sy’n diffinio’r twrnamaint.

Ond i Weriniaeth Iwerddon, mae’r twrnamaint yn aros yn y cof am iddynt gyflawni eu safle gorau erioed yn y gystadleuaeth, a hynny ar eu hymgais gyntaf, wrth i Jack Charlton arwain ei dîm i rownd yr wyth olaf a gornest yn erbyn yr Eidal.

Roedd Charlton yn rhan o garfan fuddugol Lloegr yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd ym 1966, a dechreuodd y twrnamaint i Weriniaeth Iwerddon yn erbyn Lloegr yn Cagliari. Sgoriodd Gary Lineker gyntaf yn y 10 munud agoriadol, ond sgoriodd Kevin Sheedy gyda llai nag 20 munud yn weddill i ddod â’r sgôr yn gyfartal, a’r ddau dîm yn dechrau’r ymgyrch gyda phwynt yr un. Aeth y tîm yn eu blaen i Palermo i herio'r Aifft, gyda’r gêm ddi-nod yn dod i ben yn gyfartal ac yn ddi-sgôr.

Gyda chymhwyso o’r grŵp yn y fantol, arhosodd Iwerddon yn Palermo ar gyfer eu trydedd gêm yn erbyn yr Iseldiroedd. Sgoriodd Ruud Gullit i roi’r Iseldiroedd ar y blaen yn gynnar yn y gêm, ond daeth gwytnwch Gweriniaeth Iwerddon i’r amlwg wrth i Niall Quinn unioni’r sgôr hanner ffordd trwy'r ail hanner. Llwyddodd Lloegr i guro’r Aifft, ac aeth Iwerddon ymlaen i'r rownd knockout.

Profodd tîm cryf Rwmania yn her i garfan Charlton yn rowndiau’r 16 olaf, gyda chwaraewyr fel Florin Răducioiu a Gheorghe Hagi yng ngharfan y gwrthwynebwyr. Ond parhaodd yn ornest ddi-sgôr wedi 120 munud, ac roedd yn rhaid mynd i’r smotyn i ganfod yr enillwyr. Y gôl-geidwad Packie Bonner oedd arwr y dydd pan arbedodd ymgais gan yr eilydd Daniel Timofte, ac aeth David O'Leary ymlaen i sgorio’r gic o'r smotyn a fyddai’n rhoi’r fuddugoliaeth i Iwerddon.

Ond daeth y freuddwyd i ben i Charlton a'i dîm yn y Stadio Olimpico yn Rhufain, wrth i gôl gan Toto Schillaci ychydig cyn hanner amser sicrhau buddugoliaeth i’r gwrthwynebwyr. Yn anffodus bu farw Jack Charlton yn gynharach eleni, a’r ymosodwr Niall Quinn a soniodd am ddylanwad Charlton ar y tîm cenedlaethol yn ei deyrnged i’w gyn-reolwr. "Roedd Jack Charlton yn arweinydd greddfol," meddai. "Fe wnaeth ein codi ni, fel chwaraewyr a chefnogwyr, i lefel na wyddom ei fod yn bosibl i ni ei chyrraedd, a rhoddodd gymaint o atgofion gwerthfawr i ni. Newidiodd fywydau. I ni’r chwaraewyr, rhoddodd ddyddiau gorau ein bywydau i ni.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×