RHIFYN CHWARAEWYR FC Cymru – CANOL CAE

CHWARAEWYR CHWEDLONOL – SCOTT RUSCOE

 

Amddifadwyd y Seintiau Newydd o deitl JD Cymru Premier y tymor diwethaf ar ôl i Nomadiaid Cei Connah eu curo o drwch blewyn.

Roedd hon yn ergyd i’r rheolwr Scott Ruscoe, ond mae’n amlwg ei fod yn benderfynol i arwain ei dîm yn ôl i'r uchelfannau, ac mae eu canlyniadau yn gynnar yn y tymor yn dyst o hynny. Mae llwyddiant i’r clwb yn golygu llawer mwy i Ruscoe na fyddai i eraill, wrth iddo agosáu at ei 20fed mlynedd yn y clwb fel chwaraewr, hyfforddwr, ac yn awr fel rheolwr. Llond llaw o unigolion yn unig sydd mor adnabyddus ag ef yn y gêm ddomestig. 

Ag yntau wedi chwarae bron i 100 o gemau i’r Drenewydd rhwng 1997 a 2000, daeth Ruscoe at y Seintiau Newydd yn 2002 wedi cyfnod o 18 mis ym mhyramid Lloegr gyda Chester City. Yn ystod ei yrfa chwarae 15 mlynedd gyda’r Seintiau, hawliodd Ruscoe naw teitl cynghrair yn ogystal â chodi Cwpan Cymru JD ar bedwar achlysur, ac mae eisoes wedi hawlio dau deitl ymhlith ei bedwar tlws fel rheolwr ers iddo gael ei ddyrchafu i’r swydd yn haf 2017.

Roedd yn chwaraewr cyson yng nghanol y cae, yn ogystal â bod yn ffigwr allweddol i’r Seintiau yn eu gemau Ewropeaidd. Chwaraeodd yn y ddwy gêm gyfartal yng Nghynghrair Pencampwyr UEFA yn erbyn Lerpwl hefyd. “Heb os, uchafbwynt fy ngyrfa bêl-droed Ewropeaidd oedd chwarae yn erbyn Lerpwl yn 2005,” meddai Ruscoe yn 2014. “Nhw oedd pencampwyr presennol Cynghrair Pencampwyr UEFA a daethom wyneb yn wyneb â nhw yn rownd agoriadol cystadleuaeth y tymor canlynol. Fel cefnogwr Lerpwl, roedd yn rhywbeth arbennig mewn gwirionedd.”

Derbyniodd Ruscoe gydnabyddiaeth am ei lwyddiant yn 2014 pan gafodd ei enwi’n ‘Clubman’ y Flwyddyn yn Uwch Gynghrair Cymru yng ngwobrau CBDC. Ag yntau bellach yn 42, mae gan Ruscoe gyfoeth o brofiad i dynnu arno yn ei swydd fel rheolwr gyda’r Seintiau Newydd, a bydd yn ysu i adeiladu ar ei lwyddiant cynnar. Adennill y teitl a mynd â’r clwb yn ôl i Gynghrair Pencampwyr UEFA fydd y flaenoriaeth, a bydd y safon uchel y mae’n ei ddisgwyl ohono’i hun yn sicrhau na fydd siom llwyddiant y Nomadiaid yn cael ei ailadrodd y tymor hwn.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×