RHIFYN CHWARAEWYR FC Cymru – CANOL CAE

CLIFF JONES – DEWIN YR ASGELL 

Daeth Cymru wyneb yn wyneb â Gweriniaeth Iwerddon am y tro cyntaf yn Nulyn, yn ôl ym mis Chwefror 1960, ac roedd dwy gôl gan Cliff Jones yn allweddol wrth i dîm Jimmy Murphy hawlio buddugoliaeth 3-2, gyda Phil Woosnam yn sgorio’r drydedd gôl.

Roedd Jones eisoes wedi ei sefydlu ei hun yn y tîm ymhell cyn hynny ar ôl ymddangos mewn gêm ryngwladol am y tro cyntaf yn erbyn Awstria ym mis Mai 1954, tra’n dal i fod yn chwarae i dîm Abertawe.

Daeth Jones i fod yn chwaraewr chwedlonol i’w glwb a'r wlad, ac roedd yn rhan enfawr o fuddugoliaeth mewn gêm ail gyfle dros Israel a gipiodd lle i Gymru yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA 1958. Sgoriodd Jones yn y gêm dau gymal, ac roedd yn aelod allweddol o’r tîm wrth i garfan Murphy gyrraedd rownd yr wyth olaf cyn cael eu trechu gan Frasil, y tîm a enillodd yn y pen draw, gyda Pele yn sgorio unig gôl y gêm.

Cyn y rowndiau terfynol yn Sweden, symudodd Jones i Tottenham Hotspur, a byddai'n ymddangos bron i 400 o weithiau dros y clwb ym mhob cystadleuaeth. Yn ogystal â hynny, roedd yn ffigwr pwysig yn y tîm a gipiodd y dwbl ym 1961, gan sgorio 19 gôl yn ystod yr ymgyrch. Ef hefyd oedd y Cymro cyntaf i ennill tlws Ewropeaidd wrth i Spurs godi Cwpan Enillwyr Cwpan Ewrop ym 1963.

Roedd yr anhygoel Bill Nicholson yn ffigwr canolog yng ngyrfa Jones yn White Hart Lane, a chofleidiodd ddawn ymosodol yr asgellwr. “Roedd Bill Nick wastad eisiau i ni ennill gyda steil, a gwneud hynny drwy ddifyrru’r cefnogwyr,” meddai Jones. “Pe baem yn ennill gêm drwy chwarae’n wael, byddai’n siomedig.”

Wedi degawd yn Spurs, symudodd Jones i Fulham ar ddiwedd ei yrfa chwarae, ond heb amheuaeth bydd yn cael ei gofio am ei lwyddiant yn ystod ei gyfnod yn y clwb a ddiffiniodd ei yrfa. Fel un o’r ychydig o chwaraewyr rhyngwladol Cymru i chwarae yn rowndiau terfynol twrnamaint mawr, mae’r un mor falch o’i lwyddiant gyda’i wlad, wedi iddo ymddangos 59 o weithiau, gan sgorio 16 gôl yn y cyfnod. Mae Jones yn un o fawrion yr oes honno, ac mae'n parhau i fod yr un mor angerddol am ei glwb a'i wlad hyd heddiw.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×