GWERINIAETH IWERDDON

Tri Talentog

Darren Randolph

Position Gôl-geidwad

Age 33

Height 185cm

Club West Ham United (Lloegr)

Darren Randolph

Ag yntau’n gyn chwaraewr pêl-fasged rhyngwladol, dechreuodd Randolph ar ei yrfa bêl-droed gyda Charlton Athletic.

Yn dilyn symud sawl gwaith ar fenthyciad drwy haenau is clybiau Lloegr rhwng 2004 a 2010, daeth y gôl-geidwad i amlygrwydd yn yr Alban gyda chlwb Motherwell, cyn symud i Birmingham City a Middlesbrough, ac mae bellach yn ei ail gyfnod gyda West Ham United. Mae Randolph wedi chwarae i Weriniaeth Iwerddon ar lefel dan 15, dan 16, dan 17, dan 19, dan 21, tîm B a’r tîm cyntaf, gan ymddangos bron i hanner cant o weithiau ers ei gêm gyntaf ar y lefel ryngwladol fel eilydd mewn buddugoliaeth gyfeillgar yn erbyn Oman ym mis Medi 2012.

Read More

Matt Doherty

Position Amddiffynnwr

Age 28

Height 186cm

Club Tottenham Hotspur (Lloegr)

Matt Doherty

Newydd-ddyfodiad i dîm Tottenham Hotspur yw Matt Doherty, a hynny o dîm eu gwrthwynebwyr yn Uwch Gynghrair Lloegr, Wolverhampton Wanderers.

Treuliodd Doherty ddegawd ym Molyneux lle chwaraeodd dros 300 o weithiau ym mhob cystadleuaeth. Dechreuodd arni’n hwyr ar y lefel ryngwladol, ac er iddo chwarae i dîm dan 21 Gweriniaeth Iwerddon yn 2012, ni ddaeth y cyfle i chwarae i’r tîm cyntaf tan fis Mawrth 2018, wrth iddynt golli 1-0 yn erbyn Twrci. Fe’i ganwyd yn Nulyn, a chododd drwy rengoedd ieuenctid y Bohemians, a nawr mae wrthi’n gwneud iawn am yr amser a gollodd gydag Iwerddon ar ôl sefydlu ei hun ddigon sydyn yn nhîm Tottenham Hotspur.

Read More

Robbie Brady

Position Canol cae

Age 28

Height 175cm

Club Burnley (Lloegr)

Robbie Brady

Er iddo godi drwy'r rhengoedd iau yng nghlwb Manchester United, ni chwaraeodd Brady i’r cyntaf yn Old Trafford.

Yn hytrach enillodd brofiad ar fenthyg yn Hull City rhwng 2011 a 2013, cyn iddo ymuno â'r clwb yn barhaol yn y pen draw. Chwaraewr amryddawn ar asgell chwith canol y cae neu’r amddiffynfa, chwaraeodd Brady i Norwich City hefyd, cyn cyrraedd Turf Moor yn 2017, ac mae bellach wedi chwarae mewn dros 60 o gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr i Burnley. Fel Darren Randolph, chwaraeodd Brady am y tro cyntaf yn nhîm cyntaf Gweriniaeth Iwerddon yn y fuddugoliaeth dros Oman yn 2012, gan sgorio gôl, a chynorthwyo gyda dwy gôl yn y fuddugoliaeth 4-1.

Read More
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×