Rhifyn Chwaraewyr FC CYMRU – Yr ergydwyr

Arwyr y Gwrthwynebwyr – JARI LITMANEN

 

Mae’r gair ‘legend’ siŵr o fod yn derm sy’n cael ei or-ddefnyddio yn y gêm fodern, ond pan mai chi yw’r chwaraewyr sydd wedi chwarae’r nifer fwyaf o gemau erioed i’ch gwlad, a sgoriau’r fwyaf o goliau, ac yn cael eich ystyried fel y chwaraewr gorau yn hanes y tîm cenedlaethol, mae modd cyfiawnhau’r term.

Efallai nad yw’n cael ei ystyried yn ergydiwr pur, ond diolch i dalent Jari Litmanen i chwarae ar draws y llinell flaen ac mewn safle dyfnach o flaen y canolwyr, fe sgoriodd 32 o goliau yn ei 132 o gemau i’r Ffindir rhwng 1989 a 2010.

Er na chafodd y cyfle i ddangos ei ddoniau mewn twrnamaint mawr gyda’r Ffindir, sefydlodd Litmanen ei hun fel un o chwaraewyr gorau Ewrop yn ystod ei goes aur wrth iddo gynrychioli Ajax, Barcelona a Lerpwl yn ystod cyfnod o 10 mlynedd. Yn amgylchedd ‘pêl-droed yw popeth’ Ajax yr oedd fwyaf cynhyrchiol o flaen y gôl, gan sgorio cyfanswm anhygoel o 91 o goliau ac ennill Cynghrair Pencampwyr UEFA ym 1995. Gan chwarae tan ei fod yn 40 gyda HJK Helsinki, fe wnaeth Litmanen ymddeol yn 2011, ar ôl chwarae 200 o gemau ym mhrif gynghrair y Ffindir.

Fe wnaeth anafiadau atal Litmanen rhag cyflawni llawer mwy, yn arbennig o ran lefel clwb, ond mae’n parhau i fod yn arwr ac mae cerflun ohono yn sefyll mewn stadiwm yng nghlwb ei dref enedigol, Lahti, y clwb yr oedd wedi’u cynrychioli dros ddau gyfnod gwahanol yn ystod ei yrfa. Er i’w yrfa broffesiynol bara dros bedwar degawd, cafodd ei labelu fel y ‘dyn gwydr’ oherwydd yr amser a dreuliodd yn cael triniaeth yn hytrach nag ar y cae.

Yn ystod ei yrfa ryngwladol, chwaraeodd Litmanen bedair gêm yn erbyn Cymru. Ef oedd y capten ar gyfer y gêm bêl-droed gyntaf i’w chwarae yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Mawrth 2000 wrth i’r Ffindir drechu Cymru 2-1, ond doedd e’ ddim yn gallu atal Cymru rhag hawlio buddugoliaeth 2-0 yn Helsinki ym mis Medi 2002 gyda John Hartson a Simon Davies yn canfod cefn y rhwyd. Daeth buddugoliaeth arall i’r Ffindir yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2009 gyda llwyddiant 2-0, a’r Ffindir oedd yr enillwyr eto yn yr ail gêm y mis Hydref dilynol wrth i dîm Litmanen ennill 2-1.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×