Bwrw golwg dros ein gwrthwynebwyr – Eu hoes aur

Dyddiau da i’r Ffindir yn Ewro 2020

Fel tîm cenedlaethol, mae'r Ffindir wedi bod ychydig yn brin o lwyddiant, ond newidiodd hynny flwyddyn yn ôl wrth iddynt ennill eu lle yn Ewro 2020.

I dîm sydd erioed wedi cyrraedd twrnamaint mawr yn eu hanes, mae’r cyfan mae’r rheolwr Markku Kanerva wedi'i gyflawni yn dipyn o gamp, a byddant yn cofleidio'r cyfle – cyfle y maen nhw’n ei llawn haeddu, pan fydd y twrnamaint yn digwydd o'r diwedd yr haf nesaf. Fel Cymru, maen nhw wedi dioddef y tor-calon o ddod yn arbennig o agos yn y gorffennol, ond nawr yw eu hamser nhw i ddathlu.

Yr ergydiwr Teemu Pukki yw dyn y foment ar ôl sgorio 10 gôl mewn deg gêm wrth i’r Ffindir orffen yn ail y tu ôl i’r Eidal yng Ngrŵp J. Ond ymdrech tîm oedd hon, heb os ac oni bai. “Rydw i wedi cael cymaint o bobl dros y blynyddoedd, gan gynnwys llawer yma yn y Ffindir, yn dweud na fydden ni byth yn cyrraedd y nod,” meddai Kanerva wrth FIFA.com ar ôl i’r Ffindir gipio eu lle. “Dwi’n meddwl mai’r peth mawr, y tu hwnt i fod â chwaraewyr da, yw’r ysbryd tîm. ‘Da ni hefyd wedi amddiffyn yn arbennig o dda. Mae cadw llechen lân mewn chwech o'n deg gêm yn adrodd ei stori ei hun yn hynny o beth. A ’da ni wedi bod yn ffodus hefyd o fod â chwaraewyr ymosodol effeithiol iawn. Ond yr ysbryd yw'r peth yr hoffwn ei bwysleisio yn fwy na dim. Os ydyn ni’n cynnal hynny ac yn cadw’r un meddylfryd, dwi’n meddwl y byddwn ni’n parhau i lwyddo.”

Roedd y canolwr profiadol a’r capten Tim Sparv yn rhannu emosiwn ei reolwr hefyd. Ar ôl cynrychioli ei wlad am dros ddegawd, fyddai neb wedi beio Sparv am feddwl na fyddai byth yn cyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint mawr. Ond mae ei ffydd y byddai'r tîm yma’n llwyddo yn dangos yr ysbryd sy'n amlwg o fewn y grŵp yma o chwaraewyr. Mae hi’n stori debyg i hanes Gwlad yr Iâ yn Ewro 2016, ac mae llawer o nodweddion tebyg i dîm Cymru Chris Coleman a lwyddodd i gyrraedd y rowndiau terfynol yn Ffrainc bedair blynedd yn ôl.

“Mae pwysau a disgwyliadau enfawr ar ysgwyddau pêl-droedwyr ac weithiau, i rai chwaraewyr ifanc, gall y pethau hynny fod yn ormod i’w hysgwyddo,” esboniodd Sparv pan gafodd ei holi am ei rôl fel capten y tîm yma. “Mae'n bwysig creu'r amgylchedd iawn - amgylchedd diogel - lle gall y chwaraewyr ifanc hynny deimlo'n rhydd ac yn gyfforddus i siarad am unrhyw beth maen nhw ei eisiau. Rydw i hefyd yn credu ei bod yn amlwg, os yw chwaraewyr yn teimlo'n dda oddi ar y cae, y byddan nhw'n perfformio'n well arno. Mae hynny yn bendant wedi bod yn gryfder yn y tîm cenedlaethol gan fod y rheolwyr yn gwneud peth mawr o gynnwys y chwaraewyr, gwrando ar ein safbwyntiau a gwneud yn siŵr fod pob un ohonom ni yn teimlo'n hapus ac yn rhan o beth ydyn ni’n ei wneud. Mae'n drefniant democrataidd iawn, sydd yn fantais fawr i ni, ac rydw i wrth fy modd â'r cyfrifoldeb maen nhw'n ei roi i mi fel capten.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×