Rhifyn Chwaraewyr FC CYMRU – Yr ergydwyr

Hanes mewn Hatrics

 

Yn ystod hanes hir a balch tîm cenedlaethol Cymru, mae pymtheg o chwaraewyr wedi sgorio hatric rhyngwladol.

Y mwyaf diweddar o’r rhain oedd y chwaraewr sydd â’r mwyaf o goliau i Gymru, Gareth Bale. Sgoriodd Bale dair yng ngêm gyntaf Giggs wrth y llyw yn y fuddugoliaeth 6-0 dros Tsieina yn ôl ym mis Mawrth 2018, ac yn y broses, fe ragorodd ar y record goliau a oedd yn perthyn i Ian Rush ar y pryd. Roedd gan arwr Lerpwl un hatric cenedlaethol i’w enw hefyd, wedi iddo gyrraedd y garreg filltir ei hun yn y fuddugoliaeth 6-0 dros Ynysoedd Ffaro ym mis Medi 1992.

Cofnodwyd hatric cyntaf Cymru ym mis Chwefror 1882 pan sgoriodd John Price bedair gôl yn y fuddugoliaeth 7-1 dros Iwerddon yn y Cae Ras. Sgoriodd Jack Doughty bedair gôl yn erbyn Iwerddon ym 1888 hefyd wrth i Gymru eu maeddu nhw 11-0 yn yr un lleoliad, tra bod Herbert Sisson wedi sgorio hatric wrth i Gymru drechu Iwerddon 8-2 ym mis Ebrill 1885. Parhau a wnaeth y problemau i Iwerddon ym 1889 ac eto ym 1906 wrth i Richard Jarrett a William Green sgorio tair gôl yn y ddwy gêm gynnar hynny.

Trevor Ford a hawliodd yr hatric nesaf i Gymru ym mis Tachwedd 1949 gyda Chymru yn curo Gwlad Belg 5-1 ym Mharc Ninian. Des Palmer oedd nesaf ym mis Medi 1957 gyda thair gôl yn erbyn Dwyrain yr Almaen yng Nghaerdydd, a sgoriodd John Charles pob un o goliau Cymru mewn buddugoliaeth 3-2 dros Ogledd Iwerddon yn Windsor Park ym 1955. Sgoriodd ei frawd Mel bedair yn erbyn yr un gwrthwynebwyr ym 1962, a Cliff Jones hefyd yn erbyn Iwerddon y flwyddyn ganlynol gyda buddugoliaeth 4-1 ym Melfast.

Y chwaraewr olaf i sgorio pedair gôl i Gymru mewn un gêm oedd Ian Edwards yn y fuddugoliaeth 7-0 dros Malta ym 1978, a rheiny oedd unig goliau ei yrfa ryngwladol. Bachodd John Toshack hatric yn y fuddugoliaeth 3-0 dros yr Alban ym mis Mai 1979, a sgoriodd Robert Earnshaw dair yn erbyn yr Alban hefyd ym mis Chwefror 2004 wrth i Gymru eu curo 4-0. Roedd hi’n hatric hanesyddol i Earnshaw gan mai ef yw’r unig chwaraewr i sgorio hatric yn Uwch Gynghrair Lloegr, Pencampwriaeth Lloegr (Championship), Cynghrair 1, Cynghrair 2, Cwpan FA Cup Lloegr, Cwpan y Gynghrair ac i’w wlad.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×