Rhifyn Chwaraewyr FC CYMRU – Yr ergydwyr

Helen Ward ar ei Hangerdd i Gymru, Chwarae a Bod yn Rhiant

Yr ergydiwr Helen Ward sydd â’r record am y mwyaf o goliau yn hanes tîm menywod Cymru, a dydy’r chwaraewr 34 oed ddim yn dangos unrhyw arwydd ei bod am arafu wrth iddi barhau i fod yn aelod allweddol o garfan Jayne Ludlow.

Dechreuodd Ward yn y ddwy gêm ragbrofol ddiweddar ar gyfer Ewro 2022 yn erbyn Ynysoedd Ffaro a Norwy, a sgoriodd gôl rhif 43 i’w gwlad yn y fuddugoliaeth 4-0 yn y gyntaf o’r gemau hynny. Mae hi hefyd yn arwain y rheng flaen i Watford ar hyn o bryd, ac fel llawer o fenywod, mae hi’n cydbwyso teulu ifanc gyda’i bywyd proffesiynol, ond yn amlwg mae’n dod â heriau corfforol unigryw yn ei sgil.

Fe wnaeth Ward roi genedigaeth i’w hail blentyn yn 2017, ond roedd hi’n ôl gyda charfan Cymru ar gyfer y daith i Rwsia yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd Menywod FIFA lai na saith wythnos yn ddiweddarach. “Mae geni yn drawma mawr i’r corff,” eglurodd Ward mewn cyfweliad â WalesOnline ar y pryd. “Mae’n rhaid i chi fod yn ofalus pan ydych chi’n feichiog. Ro’n i’n cadw’n heini tan hyd at fis cyn i mi eni fy mab bach. Fe wnes i ddysgu lot o fy meichiogrwydd cyntaf, mae’n naturiol i boeni felly wnes i roi’r gorau i wneud ymarferion. Y tro yma, fy nod oedd cyflymu’r broses mor ddiogel â phosibl. Fe es i i’r gampfa a gwneud yn siŵr mod i’n siarad gyda’r bobl iawn a chael y cyngor iawn. Mae’n rhaid i chi fod mor ofalus ar ôl geni, a dydych chi ddim yn gallu gwneud gormod yn rhy fuan. Dydy sit ups ac unrhyw beth sy’n gwithio eich abs allan ddim yn syniad da yn ystod beichiogrwydd nac yn syth ar ôl hynny chwaith. Cofiwch wrando ar eich corff, a gwybod pryd mae gormod yn ormod.”

Er ei bod hi bellach yn un o aelodau mwyaf profiadol y garfan, mae hi dal yn benderfynol o gyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint mawr gyda Chymru cyn ymddeol. Ei chynllun cychwynnol oedd rhoi’r gorau iddi ar ôl Ewro 2021 pe bai tîm Ludlow yn gwireddu’r freuddwyd o’r diwedd, ond mae’r pandemig wedi oedi’r twrnamaint am flwyddyn arall. Mae dal yn bosibl i Gymru ennill lle er iddynt golli i Norwy fis yn ôl, ac mae Ward dal i fod wedi ymrwymo i weld yr ymgyrch hyd at ei therfyn ar ôl rhoi cymaint i’w gwlad dros y 12 mlynedd diwethaf.

“Cymru yw’r unig reswm dwi dal yn chwarae,” meddai Ward i FAW.cymru yn 2017. “Mae lot o bobl yn gofyn i mi am bêl-droed rhyngwladol a sut beth yw e’. Os na fuaswn i’n chwarae i Gymru, mi fuaswn i siŵr o fod wedi ymddeol ar ôl cael fy merch fach. Ond fy nod erioed oedd dychwelyd i chwarae pêl-droed rhyngwladol, ac os, am ba bynnag reswm, na fyddai hynny wedi digwydd, mae’n siŵr na fuaswn i dal yn chwarae pêl-droed o gwbl nawr. Dwi’n gobeithio bod hynny’n dangos yr angerdd a’r ymrwymiad sydd gen i. Dylai chwarae i’ch gwlad fod yn uchafbwynt i’ch gyrfa, a dydw i ddim unrhyw wahanol. Fy nod mewn pêl-droed yw gwneud popeth dwi’n gallu i Gymru.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×