CYMRU – RHIFYN AMERICA FC

GARY SPEED A COSTA RICA

Dim ond dwywaith mae Cymru a Costa Rica erioed wedi cwrdd ar y cae pêl-droed, a byddant yn cael eu cofio am byth fel cofebau i’r diweddar a’r dawnus Gary Speed.

Mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Costa Rica ym mis Mai 1990 chwaraeodd Speed ei gêm gyntaf ar y lefel uchaf i’w wlad pan ddaeth ar y cae fel eilydd ar ôl 75 munud yn y fuddugoliaeth 1-0. Sgoriodd Dean Saunders unig gôl y gêm, ond bydd yr ornest yn cael ei chofio mewn hanes fel yr un a ddechreuodd yrfa ryngwladol arbennig Speed yn y cyntaf o 85 o ymddangosiadau i’w wlad.

Dros y ddau ddegawd nesaf, byddai Speed yn dod yn rhan annatod o garfan Cymru. Un o chwaraewyr mwyaf talentog ei genhedlaeth, byddai’n mynd ymlaen i ennill y gynghrair gyda Leeds United yr haf canlynol, ac yn cael ei gofio am byth fel un fawrion y Premier League. Gyda’i chwarae amryddawn, gallai Speed addasu i chwarae mewn amrywiaeth o rolau yn ôl y gofyn. Bu i’w natur boblogaidd a heintus esgor ar lif o deyrngedau o’r byd pêl-droed na welwyd mo’i debyg o’r blaen yn dilyn ei farwolaeth gynamserol ym mis Tachwedd 2011 yn ddim ond 42 oed.

Er gwaethaf ei yrfa anhygoel yn chwarae dros glybiau a gwlad, mae ei gyfnod byr wrth y llyw fel rheolwr Cymru yn dal i ennyn parch gan y Wal Goch hyd heddiw. Caiff ei adnabod fel y person a newidiodd ddiwylliant y tîm cenedlaethol yn dilyn ymadawiad John Toshack yn 2010, ac mae ei etifeddiaeth i’w weld yn glir yn y llwyddiant mae Cymru wedi’i ddathlu ar y llwyfan rhyngwladol dros y ddegawd ddiwethaf. Mae’r dagrau o dristwch wedi troi’n ddagrau o ddathlu, ac mae’r gydnabyddiaeth o’i waith yn ystod ei 11 mis wrth y llyw yn dyst i’r cyfeiriad a’r pwrpas a sefydlodd yn ystod ei gyfnod o drawsnewid.

Yng Nghaerdydd y daeth Cymru a Costa Rica benben yr eildro hefyd, tri mis ar ôl marwolaeth Speed ym mis Chwefror 2012. Cymerodd ei gynorthwyydd Osian Roberts yr awenau wrth i’w gyfaill agos a’i olynydd, Chris Coleman, wylio o’r ochrau. Roedd y golled 1-0 yn ystadegyn amherthnasol ar noson a oedd yn dathlu nid yn unig gyrfa Speed fel chwaraewr a rheolwr, ond fel tad, gŵr a mab cariadus. Roedd hi’n noson a ddaeth â byd pêl-droed Cymru ynghyd mewn undod y byddai Speed ei hun wedi bod yn falch ohono.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×