BWRW GOLWG AR Y GWRTHWYNEBWYR

HUGO SaNCHEZ, Y CHWARAEWR CHWEDLONOL O FECSICO

Caiff pob cenhedlaeth o chwaraewyr eu cofio oherwydd yr unigolion hynny sy’n cyffroi ac yn ysbrydoli, ac i filiynau o gefnogwyr ledled y byd ar ddiwedd yr 80au a dechrau’r 90au, roedd chwarae disglair Hugo Sánchez i dîm Real Madrid yn gyfnod cofiadwy iawn yn y La Liga.

Gyda'i chwarae athletig unigryw, sgoriodd Sánchez goliau anhygoel i’r tîm, cyn dathlu gyda’r backflip acrobatig a oedd mor nodweddiadol ohono. Roedd yn chwaraewr chwedlonol ym mhob ystyr o'r gair, ac fe chwaraeodd dros ei wlad mewn tair cystadleuaeth Cwpan y Byd, gan gyrraedd rownd yr wyth olaf pan gynhaliwyd y twrnamaint ym Mecsico am yr eildro ym 1986.

Ond mae’n debyg mai’r goliau a sgoriodd yn y Santiago Bernabéu, o dan adain y Cymro John Toshack sy’n aros yn y cof yn bennaf, a’r ffaith iddo sgorio 38 gôl yn nhymor hanesyddol 1989-90 wrth i'r clwb o brifddinas Sbaen hawlio’r pumed teitl yn olynol, gan sgorio 107 o goliau cynghrair yn y broses. Hawliodd Sánchez ei bumed wobr Pichichi a'i bumed teitl La Liga, ynghyd â'r ‘Esgid Aur’ Ewropeaidd, yn ystod y tymor anhygoel hwnnw. Ar ôl dod i amlygrwydd yn chwarae dros y tîm arall o’r un ddinas, Atlético Madrid, daeth yr ergydiwr prysur yn ffigwr canolog mewn cyfnod lle'r oedd Real Madrid yn rhagori ar lefel ddomestig ar ôl iddo gyrraedd y clwb yn ystod haf 1985. Aeth ati’n syth i wneud argraff enfawr.

 

Yn ystod ei saith tymor yn Real Madrid, aeth Sánchez yn ei flaen i sgorio 208 o goliau mewn 283 o gemau. Ond sgorio 29 gôl mewn 58 gêm dros ei wlad a’i wnaeth yn arwr cenedlaethol. Er iddo gyrraedd rownd yr wyth olaf ym 1986, dim ond un gôl a sgoriodd Sánchez yn y rowndiau terfynol yn erbyn Gwlad Belg. Yn groes i’w natur, methodd â throsi cic gosb yn erbyn Paraguay, a chollodd y gêm grŵp olaf ar ôl cael ei ddiarddel dros dro. Roedd yn brawf o'i natur gyfnewidiol ac angerddol, nodweddion o’i bersonoliaeth a dynnodd y sglein oddi ar ei yrfa anghofiadwy fel rheolwr i raddau helaeth. Roedd yr yrfa honno yn cynnwys cyfnod yng ngofal tîm cenedlaethol Mecsico hefyd.

Ar ôl hyfforddi mewn gymnasteg fel plentyn, trosglwyddodd ei sgiliau o’r mat i'r cwrt cosbi gan sgorio cyfres o folis a chiciau beic. Roedd ei bresenoldeb bychan yn help garw i’w hyblygrwydd yn yr awyr, ac fe wnaeth ei allu i sgorio o'r onglau mwyaf annhebygol ennill iddo statws fel chwaraewr chwedlonol ymhell wedi iddo ymddeol. Dim ond Cristiano Ronaldo a ragorodd ar bob record a gyflawnodd Sánchez yn ystod ei amser yn y Santiago Bernabéu. Ond nid yw hyn yn bychanu llwyddiant Sánchez mewn unrhyw ffordd, nac yn lleihau ei statws yn hanes y gêm. “Dylai pwy bynnag a ddyfeisiodd bêl-droed gael ei addoli fel Duw,” meddai Sánchez unwaith. Ond i filiynau o Fecsicaniaid a Madridistas, ef yw'r Duw pêl-droed y dylid ei addoli.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×