FC CYMRU – RHIFYN HANES CWPAN Y BYD

Y TROEON MEWN TYNGED A ENILLODD LE I GYMRU YNG NGHWPAN Y BYD 1958

Mae’r gwahanol gyfuniadau mathemategol sydd y tu ôl i gymhwyso ar gyfer twrnameintiau mawr yn gallu bod yr un mor anodd â’r ymgyrch ei hun, ond roedd taith Cymru i Gwpan y Byd FIFA 1958 yn Sweden ymhell o fod yn un syml.

Mewn cyfres syfrdanol o ddigwyddiadau yn amrywio o deilyngdod i wrthdaro gwleidyddol, canfu Cymru eu hunain yn cystadlu yn erbyn Israel yn y gemau ail-gyfle i geisio bachu’r lle olaf yn y rowndiau terfynol.

Dechreuodd y gadwyn o ddigwyddiadau gyda Thwrci yn gwrthod cystadlu yn ymgyrch ragbrofol Affrica ac Asia, ac o ganlyniad ni allant chwarae eu gêm yn erbyn Israel. Penderfynodd FIFA ganiatáu i Israel symud ymlaen i’r cam cymhwyso nesaf gyda gêm yn erbyn Indonesia yn eu disgwyl. Oherwydd aflonyddwch gwleidyddol, gofynnodd eu gwrthwynebwyr a fyddai’n bosibl chwarae’r gêm mewn gwlad niwtral, ond gwrthodwyd hyn. Unwaith eto, symudodd Israel ymlaen i’r trydydd cam cymhwyso, a’r cam olaf, heb orfod chwarae’r un gêm, gyda gêm yn erbyn y Swdan yn pennu pa wlad fyddai’n cynrychioli Affrica ac Asia yn y rowndiau terfynol yn Sweden.

Ond tra bo Israel yn gwibio heibio pob rownd, cafodd y Swdan glywed bod eu gwrthwynebwyr, yr Aifft, wedi tynnu’n ôl o’r gystadleuaeth mewn protest yn erbyn presenoldeb Israel yn y gystadleuaeth o ganlyniad i wrthdaro a thensiwn rhwng y ddwy wlad yn dilyn Argyfwng Sŵes. Parhau a wnaeth y ddadl wleidyddol, a’r Swdan oedd y wlad ddiweddaraf i wrthod chwarae Israel. Yna, gorchmynnodd FIFA na ddylai’r un tîm ar wahân i’r wlad sy’n cynnal y gystadleuaeth gymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol heb gicio’r un bêl.

Cafodd enwau pob tîm a ddaeth yn ail yng ngrŵp Ewrop, gan gynnwys Cymru, eu rhoi mewn het i ddarganfod pwy fyddai’n cystadlu yn erbyn Israel am y safle terfynol hwnnw. Tynnodd Uruguay a’r Eidal yn ôl, a chafodd Gwlad Belg eu dewis i wynebu Israel mewn gêm dau gymal i benderfynu o’r diwedd pwy fyddai’n hawlio’r lle olaf. Ond gwrthododd Gwlad Belg y cynnig, ac wrth i’r enwau ddod o’r het unwaith yn rhagor, cafodd tîm Jimmy Murphy eu paru ag Israel yn y pen draw. Byddai’r gêm dau gymal yn digwydd ym mis Ionawr a mis Chwefror.

Teithiodd Cymru i Israel ar gyfer y cymal cyntaf, a daeth goliau gan Ivor Allchurch a Dave Bowen i roi buddugoliaeth 2-0 drawiadol i Gymru. Yn y gêm gartref, gwasgodd 38,000 o gefnogwyr i Barc Ninian wrth i Allchurch sgorio unwaith eto cyn i Cliff Jones selio buddugoliaeth 2-0 arall i dîm Murphy. Gyda’r sgôr yn dod i gyfanswm cyfforddus o 4-0 dros y ddwy gêm, roedd hynny’n golygu y byddai Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd, am y tro cyntaf a’r tro olaf hyd heddiw.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×