FC CYMRU – RHIFYN HANES CWPAN Y BYD

MARK HUGHES A GÔL CWPAN Y BYD GORAU CYMRU

Yn ystod ei yrfa ryngwladol, sgoriodd Mark Hughes nifer o goliau cofiadwy yn ei 72 ymddangosiad i’w wlad rhwng 1984 a 1999.

Er hynny, mae’n cael ei gofio orau am un o’r cyntaf o blith ei 16 o goliau i Gymru, wrth i’r ergydiwr syfrdanu seiliau’r Cae Râs gyda’i foli enwog y erbyn Sbaen ym mis Ebrill 1985.

Cyrhaeddodd tîm talentog Sbaen y Cae Râs gyda’u rheolwr Miguel Munoz ymhell o fod wedi sicrhau lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1986 FIFA ym Mecsico. Roedd dal gobaith i Gymru a’r Alban yng Ngrŵp 7 hefyd, ac mae mwy am yr hanes arbennig hwnnw i’w ganfod yn ein pennod ar golli allan yng Nghwpan y Byd.

Roedd Sbaen wedi hawlio buddugoliaeth 3-0 gyfforddus dros dîm Mike England yn Seville yn gynharach yn yr ymgyrch, ond roedd perfformiadau a chanlyniadau Cymru wedi gwella’n sylweddol ers hynny, gyda’r tîm yn curo Gwlad yr Iâ a’r Alban cyn yr ail gêm hon yn erbyn Sbaen.

Ymhlith carfan Cymru o sêr yn yr ymgyrch ragbrofol honno roedd y gôl-geidwad Neville Southall, Kevin Ratcliffe, Peter Nicholas, Mickey Thomas a Robbie James. Fodd bynnag, y bartneriaeth rhwng Hughes a Ian Rush ar y blaen a oedd yn ysbrydoli hyder a chred ymhlith y cefnogwyr y gallai’r tîm hwn o’r diwedd dawelu ysbrydion 1958. A’r noson hon, fe wnaeth y ddeuawd hon gyfiawnhau’r hyder hwnnw.

Roedd dros 23,000 o gefnogwyr yn bresennol yn Wrecsam ar y nos Fawrth honno, a dechreuodd y dathliadau ychydig cyn hanner amser wrth i Rush roi’r tîm ar y blaen. Byddai ergydiwr enwog Lerpwl yn sgorio ddwywaith yn y fuddugoliaeth 3-0 adnabyddus, ond y gôl gan Hughes ddechrau’r ail hanner a ddiffiniodd y gêm hon am flynyddoedd i ddod.

Ac yntau’n ddim ond 21 oed ac eisoes yn gwneud argraff fawr yn Old Trafford gyda’i berfformiadau i Manchester United, roedd Hughes yn mwynhau ei dymor gorau erioed. Gan sgorio 24 o goliau mewn 55 o gemau clwb cystadleuol, roedd yr ergydiwr yn amlwg wedi denu sylw clybiau mawr Ewrop, a blwyddyn yn ddiweddarach symudodd i Barcelona.

Ond gadewch i ni ddychwelyd i’r noson gofiadwy honno yn Wrecsam. Gan gynrychioli ei wlad ger ei bentref genedigol, Rhiwabon, yn erbyn tîm a oedd wedi cyrraedd rownd derfynol Ewro 1984, roedd hyder Hughes yn ei allu ei hun ar ei fwyaf amlwg wrth iddo ganfod ei hun mewn gofod ar ymyl ardal Sbaen ar ôl 53 munud.

Gyda chic rydd gan Gymru yn cael ei chlirio’n rhannol a’r ymwelwyr yn brwydro fwyfwy i unioni’r sgôr, stopiodd amser yn stond wrth i Hughes daflu ei hun i’r awyr. Gyda’i gorff yn gorwedd ar ei hyd, cysylltodd Hughes â’r bêl yn berffaith gyda chic siswrn i’r ochr a wibiodd heibio’r gôl-geidwad, a Luis Arconada heb obaith mul o’i harbed. Mae’n parhau i fod yn foment allweddol yn hanes pêl-droed Cymru, er mai Sbaen a enillodd le yn yr Ewros yn y pen draw, gyda Chymru yn colli allan o drwch blewyn unwaith eto.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×