Y WERINIAETH TSIEC
Fel amddiffynnwr, treuliodd Jaroslav Šilhavý ddegawd gyda chlwb RH Cheb yn y Weriniaeth Tsiec rhwng 1980 a 1990 lle ymddangosodd dros 250 o weithiau ac ennill lle yng nghlwb Slavia Prague.
Gyda hyn daeth i sylw tîm cenedlaethol Tsiecoslofacia, a chwaraeodd bedair gêm yn ystod gyrfa chwarae ryngwladol fer. Fel rheolwr, cyfunodd Šilhavý wahanol safleoedd clwb â safle cynorthwyydd tîm cenedlaethol y Weriniaeth Tsiec rhwng 2001 a 2009, a dychwelodd i gymryd awenau ei dîm cenedlaethol yn 2018 ar ôl cyfnodau wrth y llyw gyda Dukla Prague a Slavia Prague yn yr uwch gynghrair ddomestig. Enillodd gynghrair y Weriniaeth Tsiec gyda Slavia Prague yn 2016/17, gan ail-adrodd y llwyddiant hwn gyda Slovan Liberec yn nhymor 2011/12.