FC CYMRU – RHIFYN HANES CWPAN Y BYD

CYMRU YN CURO PENCAMPWYR Y BYD, YR ALMAEN

Er bod tîm Terry Yorath heb eu trechu yn eu tair gêm blaenorol, prin iawn fyddai unrhyw un wedi rhagweld beth fyddai’n digwydd wrth i’r tîm baratoi ar gyfer yr her o wynebu pencampwyr presennol y byd ar y pryd, yr Almaen, mewn gêm ragbrofol ar gyfer yr Ewros yng Nghaerdydd.

Un noson ym mis Mehefin 1991, gyda Pharc yr Arfau dan ei sang, daeth torf enfawr ynghyd i wylio’r tîm a oedd wedi trechu’r Ariannin yn Rhufain flwyddyn ynghynt.

Andreas Brehme a sgoriodd y gôl dyngedfennol yng Nghwpan y Byd 1990 o’r smotyn ar gyfer tîm Franz Beckenbauer i gadarnhau ei le yn llyfrau hanes pêl-droed yr Almaen. Fodd bynnag, roedd Der Kaiser wedi cael ei ddisodli ers hynny gan Berti Vogts fel rheolwr erbyn amser i’r Die Mannschaft gyrraedd prif ddinas Cymru. Nid oedd yr Almaen wedi colli’r un gêm mewn dros 15 mis ac 16 o gemau. Ond daw popeth da i ben yn y pen draw.

Aeth y capteiniaid Kevin Ratcliffe a Lothar Matthäus ati i gyfnewid ‘pennants’ a dymuniadau gorau cyn i gic gyntaf, ond roedd tîm Cymru yn eofn er bod eu gwrthwynebwyr yn cyfrif chwaraewyr fel Jurgen Klinsmann, Rudi Voller, Matthias Sammer a sêr mawr eraill y gêm Ewropeaidd yn eu plith.

Ymosododd Cymru ar eu gwrthwynebwyr llwyddiannus o’r cychwyn cyntaf gyda Mark Aizlewood yn glynu at ddyletswyddau marcio dim nonsens ar Klinsmann, ac Andy Melville yn cael y dasg o gadw trefn ar Voller. Gwnaeth y ddau amddiffynnydd eu gorau glas i rwystro a chynhyrfu eu gwrthwynebwyr, a gyda Ian Rush, Mark Hughes a Dean Saunders ill tri yn dechrau i Gymru, roedd y drws ar agor i Gymru sgorio ar ochr arall y cae.

A Rush a brofodd i fod yn beryglus ar y noson enwog hon. Ac yntau yn mwynhau chwarae ar lefel clwb unwaith eto ar ôl ail-ymuno â Lerpwl yn dilyn cyfnod byr gyda Juventus yn Turin, llwyddodd Rush i ganfod ei hun mewn gofod yn yr ardal, heb oedi dim cyn anfon y bêl heibio’r gôl-geidwad Bodo Illgner. Hwn oedd y nawfed tro i’r ddwy wlad wynebu ei gilydd, ac roedd gôl Rush yn ddigon i roi i Gymru ei buddugoliaeth gyntaf.

Llwyddodd Cymru i wneud yr un peth eto ym mis Mai 2002 wrth i Robert Earnshaw sgorio unig gôl y gêm ac wrth i Gymru drechu’r Almaen 1-0 unwaith eto mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd. Ond ni ddylid tanbrisio’r clod o guro pencampwyr y byd mewn gêm gystadleuol ym 1991. Mae Yorath yn haeddu’r bri am berfformiad disgybledig iawn a oedd wedi’i drefnu’n dda. A phrin iawn yw’r gwledydd sydd wedi gwneud pethau mor anodd â hynny i bencampwyr Cwpan y Byd ar y pryd.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×