GOLWG AR Y GWRTHWYNEBWYR

Tomas Rosicky YN SYFRDANU’R BYD

Mis Mai 2006 oedd hi pan lwyddodd Arsenal i ddenu Tomas Rosicky i Arsenal o Borussia Dortmund. Gyda’r ddêl wedi’i chadarnhau, teithiodd y chwaraewr 25 oed yn ôl i’r Almaen i gynrychioli’r Weriniaeth Tsiec yng Nghwpan y Byd, ond ychydig iawn a fyddai wedi darogan yr argraff y byddai’n ei chael yn syth wrth iddo synnu’r Unol Daleithiau gyda pherfformiad perffaith yn Gelsenkirchen.

Gan chwarae ochr yn ochr â Pavel Nedvěd yn ymosod yng nghanol y cae, fe wnaeth Rosický a’r Weriniaeth Tsiec ddominyddu’r gêm a mynd ar y blaen yn gynnar wrth i’r cawr Jan Koller benio’r bêl heibio’r gôl-geidwad Kasey Keller yn y pum munud agoriadol. A dyna ddechrau’r diwedd i’r Unol Daleithiau, wrth i Rosický ddyblu’r fantais ar ôl 36 munud gydag ergyd arbennig o bell.

 

Daeth Koller oddi ar y cae oherwydd anaf cyn hanner amser, gan roi i Rosický y gofod ymosod oedd ei angen arno i reoli’r gêm. Sgoriodd seren newydd Arsenal ei ail ar ôl 76 munud, ac roedd yn llawn haeddu’r wobr ‘man of the match’ a gipiodd wrth i’w dîm ddathlu dechrau gwych i’r twrnamaint.

“Roedd hi’n un o gemau gorau erioed y tîm hwn,” meddai rheolwr y Weriniaeth Tsiec, Karel Brückner ar ôl y fuddugoliaeth. Er bod pedwar o’r tîm a ddechreuodd iddo dros 30 oed, dim ond pethau positif a gymerodd y tactegydd profiadol o berfformiad ei dîm. “Dydy ein chwaraewyr ni ddim yn mynd yn hen, maen nhw ar eu mwyaf cynhyrchiol.”

Stori dra wahanol oedd hi i’r Unol Daleithiau. “Embaras llwyr,” meddai’r ergydiwr Landon Donovan yn y New York Times. “Ychydig yn llipa, ychydig yn anlwcus. Ges i ddim digon o’r bêl. A phan o’n i'n ei chael hi, fe wnes i ei chwarae hi’n dda, ond ddim digon. Ac efallai ychydig yn fwy ymosodol. Dwi ddim yn meddwl ces i shot ar y gôl. Ac wrth chwarae 45 munud fel blaenwr, dydy hynny ddim digon da.”

Yn anffodus, er cystal oedd eu buddugoliaeth agoriadol, dyma ddathliad olaf y Weriniaeth Tsiec yn eu cyfnod byr yn y gystadleuaeth. Yn wir, ni ddaeth yr un gôl arall ganddyn nhw wrth iddyn nhw golli 2-0 yn erbyn Ghana a’r Eidal yn Cologne a Hamburg, a dim ond yr Unol Daleithiau a’u cadwodd nhw oddi ar waelod y tabl wedi i dîm Bruce Arena golli pob un o’u gemau.

Ond roedd mwy i ddod gan Rosický wrth iddo gael ei enwi fel Chwaraewr y Flwyddyn i’r Weriniaeth Tsiec yn 2006, a byddai’n treulio’r ddegawd nesaf yn Arsenal, gan ennill Cwpan yr FA yn 2014 ac yn 2015. Dychwelodd i’r Weriniaeth Tsiec gyda Sparta Prague yn 2016 a daeth â’i yrfa chwarae i ben ddwy flynedd yn ddiweddarach ar ôl chwarae 105 o gemau i’w wlad, gyda’r noson honno ym mis Mehefin yn yr Almaen yn parhau fel yr un mwyaf cofiadwy o’r cyfan.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×