Bwlgaria Dan 21
Bwlgaria Dan 21
Ond nesaf, colled 4-0 yn erbyn Cymru wrth i Jack Vale fachu’r penawdau i’r ymwelwyr gyda hatric a hanner yn Sofia. Diolch i Vladimir Nikolov, daeth ymateb cryf gan y tîm fis yn ddiweddarach wrth iddo sgorio ei hatric ei hun yn y fuddugoliaeth 5-0 dros Gibraltar, gyda Dimitar Stoyanov a Martin Petkov yn ychwanegu at y cyfanswm.
Y Swistir oedd yr ymwelwyr nesaf i Sofia ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, ond roedd un gôl gan Kastriot Imeri yn ddigon i’r ymwelwyr hawlio buddugoliaeth 1-0. Yna, aeth Bwlgaria ar y blaen yn erbyn yr Iseldiroedd yn eu gêm nesaf yn Almere, ond daeth ymateb gan y tîm cartref trwy law goliau gan Ian Maatsen a dwy gan Joshua Zerkzee i gipio buddugoliaeth 3-1 i’r tîm cartref. Dychwelodd Bwlgaria i Sofia ar gyfer eu chweched gêm o’r ymgyrch ym mis Tachwedd, lle cawsant eu dal i gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Moldofa, er i’r ymwelwyr fynd lawr i ddeg dyn.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now