Cymru Dan 21
Cymru Dan 21
Diolch i hatric gan Jack Vale a gôl gan Billy Sass-Davies, bachodd y tîm fuddugoliaeth drawiadol 4-0 yn erbyn Bwlgaria yn Sofia ym mis Medi wrth i’r tîm wneud yn iawn am y cyfleoedd a gollwyd yn eu gêm flaenorol.
Er yr hyder o’r fuddugoliaeth, teithiodd Cymru i Orhei ym mis Hydref ar gyfer eu hail gêm yn erbyn Moldofa, a dioddef colled rwystredig 1-0 wrth i Dinis Ieseanu rwydo unig gôl y gêm hanner ffordd trwy’r hanner agoriadol. Nesaf, ymweliad â Nijmegen i herio’r Iseldiroedd, gyda dwy gôl gan Jurgen Ekkelenkamp yn gosod y tôn wrth i’r Iseldiroedd hawlio buddugoliaeth gadarn 5-0, gyda Sven Botman a Daishawn Redan yn sgorio hefyd, a Fin Stevens yn sgorio i’w rwyd ei hun
Er hynny, dangosodd y tîm maint eu cymeriad i ymateb i’r golled drom trwy sgorio saith yn erbyn Gibraltar i hawlio eu buddugoliaeth uchaf erioed ar y lefel hon o 7-0. Llwyddodd chwe chwaraewr gwahanol i sgorio, sef Owen Beck, Ryan Astley, Terry Taylor, Daniel Williams, Luke Jephcott a dwy gan Joe Adams. Gyda’r tîm yn morio mewn hyder, roedd yn rhaid i arweinwyr grŵp, y Swistir, fod ar eu gorau ym mis Tachwedd i hawlio buddugoliaeth 1-0 yng Nghasnewydd, gyda Felix Mambimbi yn sgorio’r gôl dyngedfennol i’r ymwelwyr.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now