CYMRU DAN 21

Ar y diwrnod hwn – 29 Mawrth

Mae tîm Dan 21 Cymru wedi chwarae ar y dyddiad hwn yn flaenorol yn 2011 a 2016 wrth i’r tîm deithio i Andorra a Rwmania (yn y drefn honno) ar gyfer Pencampwriaeth Ragbrofol Dan 21 UEFA.

Brian Flynn oedd y rheolwr ar gyfer gêm agoriadol Grŵp 3 yn erbyn Andorra 11 mlynedd yn ôl, ac fe gymerodd gôl i’w rwyd ei hun gan Armand Fajardo hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf i Gymru sicrhau tri phwynt yn y fuddugoliaeth 1-0. Ond dim ond saith pwynt arall llwyddodd y tîm i’w hennill yn ystod yr ymgyrch gan orffen un lle oddi ar waelod y tabl.

Cymru Dan 21 XI v Andorra Dan 21 – 29 Mawrth 2011

Rhys Taylor (Gôl-geidwad), Jazz Richards, Troy Brown, Adam Matthews, Daniel Alfei, Joe Partington, Jonny Williams (Robert Ogleby 83), Ryan Doble, Jake Taylor, Lee Lucas (Billy Bodin 60), Elliott Chamberlain (Jake Cassidy 69).

Eilyddion na chafodd eu defnyddio: David Cornell (Gôl-geidwad), Tom Bender, Nathan Craig, Joe Walsh.

Roedd Geraint Williams wedi cymryd yr awenau erbyn y gêm ragbrofol yn erbyn Rwmania ar y diwrnod yma yn 2016 ac roedd ei dîm mewn cystadleuaeth frwd wrth symud i ail hanner yr ymgyrch. Wedi gêm gyfartal 0-0 oddi cartref i Fwlgaria ychydig ddyddiau ynghynt, teithiodd Cymru i Medias am gêm bwysig yn erbyn y tîm cartref. Ond oherwydd goliau gan Robert Hodorogea ac Alexandru Ioniță cyn yr awr, roedd cryn dipyn o dasg o’u blaenau. Daeth gôl gan yr eilydd Jake Charles yn ystod amser anafiadau, ond gôl gysur yn unig oedd hon i Gymru ar ôl i Ellis Harrison weld ei gic o’r smotyn yn cael ei harbed cyn hanner amser.

"Roedd y cyfan yn rhwystredig iawn," eglurodd Williams wrth FAW.cymru ar ôl y gêm. "Fe wnaethon ni adael i'n safonau ostwng heno, gyda'r bêl a hebddi, a gadael heb ddim, sydd fwy neu lai be’r oedden ni’n ei haeddu ar ôl y perfformiad heno. Byddai'r gic o’r smotyn yn bendant wedi bod yn drobwynt, byddai wedi golygu ein bod ni’n gyfartal am hanner amser, a hynny heb chwarae'n dda. Roedden ni'n ddi-guro cyn heno gan lwyddo i wneud y pethau sylfaenol yn dda, felly does dim esgusodion."

Cymru Dan 21 XI v Romania DAN 21 – 29 Mawrth 2016

Billy O'Brien (Gôl-geidwad), Josh Yorwerth, Tom Lockyer, Gethin Jones (Connor Roberts 82), Tom O'Sullivan (Jake Charles 56), Jordan Evans, Lee Evans, Josh Sheehan (Declan Weeks 75), Ellis Harrison, Wes Burns, Ryan Hedges.

Eilyddion na chafodd eu defnyddio:  Michael Crowe (Gôl-geidwad), Dominic Smith, Theo Wharton.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×