Cymru Dan 21 v Bwlgaria Dan 21

Gemau Blaenorol

Roedd Cymru a Bwlgaria hefyd yn yr un grŵp ar gyfer ymgyrch ragbrofol Dan 21 UEFA 2017 a thîm Geraint Williams a hawliodd bedwar pwynt yn erbyn eu gwrthwynebwyr.

Ond Bwlgaria a fyddai’n gorffen yn ail yng Ngrŵp 5 y tu ôl i Ddenmarc wrth i Gymru ddod â’r ymgyrch i ben gydag un fuddugoliaeth yn unig yn eu chwe gêm ddiwethaf, er iddynt fod yn arwain y grŵp yn y camau cynnar.

Cynhaliwyd gêm gyntaf yr ymgyrch yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Mawrth 2015 wrth i ddwy gôl gan Tom O'Sullivan a thrydedd gôl gan Josh Yorwerth o fewn y 25 munud agoriadol roi Cymru ar y blaen ar yr hanner. Ond daeth Bwlgaria at eu coed ac ymateb yn yr ail hanner gan dynnu gôl yn ôl trwy Nikola Kolev ar ôl 51 munud. Er i'w hyder godi ar ôl hanner agoriadol rhwystredig, daliodd Cymru ar y fantais yn gyfforddus.

Gyda rhagor o fuddugoliaethau yn erbyn Lwcsembwrg ac Armenia a gemau cyfartal yn erbyn Denmarc a Rwmania, aeth Cymru i Stara Zagora ym mis Mawrth 2016 i herio Bwlgaria fel arweinwyr di-guro’r grŵp. Roedd perfformiad rhagorol yn Stadiwm Beroe yn haeddu mwy na’r gêm gyfartal 0-0 yn y diwedd. Ond parhau a wnaeth eu record di-guro yn yr ymgyrch, hyd yn oed os oedd Williams a’i chwaraewyr yn rhwystredig ar y chwiban olaf oherwydd beth fyddai wedi gallu bod. Ond daeth cyfres o ganlyniadau gwael i ddilyn a Chymru, yn y pen draw, yn gorffen yn y pedwerydd safle o flaen Lwcsembwrg ac Armenia.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×