BWLGARIA DAN 21

TRI TALENTOG

Damyan Hristov

Position Gôl-geidwad

Age 19

Height 180cm

Club Ludogorets Razgrad (Bwlgaria)

Damyan Hristov

Gôl-geidwad dawnus sy’n chwarae yn rheolaidd i’r ail dîm yn Ludogorets Razgrad.

Mae hefyd wedi chwarae i’r tîm cyntaf yn y gynghrair a Chwpan Bwlgaria y tymor hwn, ac wedi bod yn ddewis cyntaf ar gyfer eu hymgyrch Cynghrair Europa UEFA ar ôl ymddangos am y tro cyntaf ym mis Mai 2021. Daeth Hristov trwy'r rhengoedd ieuenctid yn Ludogorets Razgrad a disgwylir iddo herio'r dewis cyntaf yn y gôl, Sergio Padt, am y safle'r tymor nesaf.

Read More

Simeon Petrov

Position Amddiffynnwr

Age 22

Height 195cm

Club CSKA 1948 Sofia (Bwlgaria)

Simeon Petrov

Ffigur profiadol yn nhîm Dan 21 Bwlgaria sydd hefyd wedi sefydlu ei hun yn nhîm cyntaf CSKA 1948 Sofia.

Ganed y cawr o amddiffynnwr canolog yn Ffrainc ac mae'n gymwys i chwarae i’r ddau dîm cenedlaethol. Ond ar ôl dod trwy'r rhengoedd ieuenctid yn Limoges cyn symud i Gazélec Ajaccio, gadawodd Ffrainc i ymuno â Strumska Slava yn ail-adran Bwlgaria yn 2019. Llwyddodd ei botensial i ddenu CSKA 1948 Sofia, ac arwyddodd gytundeb parhaol gyda’r Clwb ym mis Mai 2020 yn dilyn eu dyrchafiad i’r adran gyntaf.

Read More

Martin Petkov

Position Blaenwr

Age 19

Height 180cm

Club Slavia Sofia (Bwlgaria)

 Martin Petkov

Ergydiwr ifanc a dawnus sydd wedi creu argraff dda i’w glwb a’i wlad.

Er ei fod yn dal yn ei arddegau, mae wedi ymddangos i Levski Sofia ym mhob un o'r pedwar tymor diwethaf yn adran uchaf Bwlgaria, gan ymddangos am y tro cyntaf fel chwaraewr 16 oed yn erbyn Ludogorets Razgrad ym mis Ebrill 2019. Ers hynny mae Petkov wedi ymddangos dros 50 o weithiau i’r tîm cyntaf ym mhob cystadleuaeth, ac yn ddiweddar symudodd i Slavia Sofia. Aelod allweddol o garfan Dan 21 Bwlgaria, mae Petkov hefyd wedi cynrychioli ei wlad ar lefel dan 19.

Read More
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×