Ewro Dan 21 2023 UEFA

Esbonio’r ymgyrch ragbrofol

Cafodd Cymru eu tynnu yn erbyn yr Iseldiroedd, y Swistir, Bwlgaria, Moldofa a Gibraltar yng Ngrŵp E y twrnamaint rhagbrofol i benderfynu pa 14 tîm a fydd yn ymuno â Rwmania a Georgia yn y rowndiau terfynol rhwng 9 Mehefin a 2 Gorffennaf 2023.

Tynnwyd yr enwau o’r het yn ôl ym mis Ionawr 2021 pan rannwyd 53 o dimau yn naw grŵp - wyth grŵp o chwe thîm ac un grŵp o bum tîm. Bydd pob grŵp yn cael ei chwarae yn y fformat cartref ac oddi cartref arferol gydag enillwyr y naw grŵp a’r ail dîm gorau (heb gyfrif canlyniadau yn erbyn y tîm sy’n dod yn chweched) yn cymhwyso’n uniongyrchol ar gyfer y rowndiau terfynol, tra bod yr wyth tîm sy’n weddill yn symud ymlaen i’r gemau ail gyfle. Yna bydd enillwyr y pedair gêm dau gymal cartref ac oddi cartref yn symud ymlaen i'r rowndiau terfynol. Nid yw Cymru erioed wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Dan 21, ond llwyddodd y tîm i gyrraedd y gemau ail gyfle yn 2009.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×