10 mlynedd yn ôl - 29 Mawrth 2011

Andorra Dan 21 0-1 Cymru Dan 21

Yng ngêm gyntaf ymgyrch ragbrofol Dan 21 Ewro 2013, teithiodd tîm Brian Flynn i Andorra la Vella, ac er i Gymru gipio’r tri phwynt a sicrhau dalen lân, roedd hi’n ddechrau llai na gwefreiddiol i ymgyrch a brofodd i fod yn un anodd iawn.

Gôl i’w rwyd ei hun gan Armand Fajardo ar ôl 21 munud oedd y cyfan a oedd yn gwahanu’r ddau dîm. Byddai Cymru’n hawlio buddugoliaeth 4-0 dros Andorra yn y gêm gartref yn Wrecsam flwyddyn yn ddiweddarach, ond dim ond tri o’u wyth gêm a enillodd tîm Flynn yn ei ymgyrch ddiwethaf fel rheolwr timau canolraddol Cymru. Ac ni lwyddodd Andorra i ennill yr un pwynt.

Cymru Dan 21 XI: R.Taylor, Richards, Brown, Matthews, Alfei, Partington, Williams, Doble, J.Taylor, Lucas, Chamberlain.

Eilyddion: Cornell, Bodin, Cassidy, Ogleby, Bender, Craig, Walsh.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×