Cymru Dan 21
Cymru Dan 21
Ond yna, daeth yr Almaen i Wrecsam ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, gan ystyried y gêm flaenorol fel rhybudd i beidio â chymryd y tîm cartref yn ysgafn. Er i Gymru greu ambell gyfle yn gynnar yn y gêm ac er i Mark Harris sgorio o’r smotyn ddechrau’r ail hanner, profodd yr Almaen yn wrthwynebwyr rhy gryf, gan hwylio heibio Cymru i fuddugoliaeth 5-1 gyda Robin Hack yn serennu ac yn helpu ei hun i hatric. Dychwelodd y tîm i chwarae yn erbyn Moldofa yn Orhei ym mis Hydref, ac er iddynt fynd ar y blaen trwy Nathan Broadhead, sgoriodd Alexandr Belousov ddwywaith i syfrdanu Cymru a chipio tri phwynt i Foldofa.
Fis yn ddiweddarach, daeth Cymru dros y golled honno gyda buddugoliaeth 1-0 drawiadol dros Bosnia a Herzegovina wrth i Liam Cullen sgorio unig gôl y gêm ar ôl 71 munud. Ond oherwydd y pandemig, ni ddychwelodd y tîm i chwarae tan fis Medi 2020 pan sgoriodd Ševkija Resić yr unig gôl i Bosnia a Herzegovina yn Zenica i dalu’r pwyth yn ôl am y canlyniad blaenorol yn Wrecsam a sicrhau buddugoliaeth 1-0 i’w dîm. Gyda’r ymgyrch yn tynnu at ei therfyn a nifer cynyddol o chwaraewyr yn ennill eu lle yn nhîm cyntaf Cymru, daeth goliau gan Albert Sambi Lokonga i ysbrydoli Gwlad Belg i fuddugoliaeth gadarn 5-0 yn erbyn Cymru yn Leuven i adael Cymru ar waelod Grŵp 9 cyn y ddwy gêm olaf. Daeth buddugoliaeth 3-0 yn y gêm nesaf yn erbyn Moldofa diolch i goliau gan Terry Taylor, Nathan Broadhead a Momodou Touray yn yr ail hanner, a symudodd Cymru uwch eu pennau yn y grŵp. Ond daeth diwedd rhwystredig i’r ymgyrch wrth i’r Almaen hawlio buddugoliaeth 2-1 yn Braunschweig i ennill y grŵp, a Mark Harris yn sgorio’r gôl gysur i dîm Bodin.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now