Moldofa Dan 21

Eu hymgyrch ragbrofol ddiwethaf ar gyfer yr Ewros

A hwythau’n canfod eu hunain yn yr un grŵp a’r Almaen a Gwlad Belg ynghyd â Bosnia a Herzegovina a Chymru yng Ngrŵp 9, doedd ennill lle yn Ewro Dan 21 UEFA 2021 byth yn mynd i fod yn dasg hawdd i Foldofa a’r cyn-hyfforddwyr Alexandru Guzun ac yna’n hwyrach Serghei CleScenco.

Ac ni wnaeth colled 4-0 drom oddi cartref i Bosnia a Herzegovina yn y gêm agoriadol ym mis Mawrth 2019 rhyw lawer i awgrymu fel arall. Ond fe ymatebodd y tîm mewn steil yn eu hail gêm wrth i ddwy gôl gan Alexandr Belousov sicrhau buddugoliaeth 2-1 annisgwyl dros Gymru yn Orhei, gyda Nathan Broadhead yn sgorio’r gôl gysur. Er gwaetha’r hyder a ddaeth gyda’r fuddugoliaeth, cawsant eu curo 4-1 gan Wlad Belg yn Leuven ychydig ddyddiau’n ddiweddarach

Daeth y pandemig â’r ymgyrch i stop cyn i’r chwarae ail-ddechrau ym mis Medi 2020, a byddai Moldofa’n chwarae eu pum gêm derfynol mewn cyfnod o dri mis. Roedd colli 4-1 i’r Almaen yn Wiesbaden yn dweud mwy am ansawdd y tîm cartref ac enillwyr y grŵp yn y pen draw, a daeth gêm gyfartal 1-1 ddigon parchus i ddilyn yn erbyn Bosnia and Herzegovina, gydag Artur Crăciun yn unioni’r sgôr o’r smotyn yn y munudau terfynol. Daeth colled drom arall 5-0 yn erbyn yr Almaen yn Chișinău ym mis Hydref, ond unwaith eto, daeth eu cymeriad i’r amlwg wrth i Denis Furtună sgorio’r unig gôl mewn buddugoliaeth 1-0 enwog yn erbyn Gwlad Belg ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. Ond daeth eu hymgyrch i ben gyda cholled, a Chymru yn hawlio buddugoliaeth 3-0 gyfforddus yn Wrecsam i adael Moldofa ar waelod y grŵp.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×