Moldofa Dan 21

Hanes

Dechreuodd stori pêl-droed rhyngwladol Dan 21 Moldofa ym mis Awst 1992 pan gollodd y tîm 1-0 yn erbyn Belarws yn ChiSinAu.

Ers eu hymgyrch gychwynnol ym 1996, nid yw’r tîm wedi llwyddo i gyrraedd yr 13 cystadleuaeth Ewro UEFA Dan 21 sydd wedi dod ers hynny, ond mae eu llwyddiant wedi bod yn y chwaraewyr sydd wedi datblygu trwy’r rhengoedd i’r tîm cyntaf dros y ddau ddegawd diwethaf. Er nad ydyn nhw wedi cymhwyso, mae’r tîm wedi hawlio buddugoliaethau mewn 30 o’u 120 o gemau cystadleuol, ac wedi ennill hanner eu gemau rhagbrofol yn ymgyrchoedd 2009 a 2015. Daeth eu buddugoliaeth fwyaf wrth iddynt guro Georgia 5-1 ym mis Chwefror 2006 mewn gêm a chwaraewyd yn Valletta, Malta. Daeth eu colled fwyaf yn gynnar yn eu hanes wrth i Wlad Groeg eu maeddu 8-0 ym mis Hydref 1996.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×