Ewro Dan 21 2023 UEFA
Ewro Dan 21 2023 UEFA
Tynnwyd yr enwau o’r het yn ôl ym mis Ionawr pan rannwyd 53 o dimau yn 9 grŵp - wyth grŵp o chwe thîm ac un grŵp o bum tîm. Bydd pob grŵp yn chwarae’r fformat cartref ac oddi cartref arferol gydag enillwyr y 9 grŵp a’r tîm a ddaw yn yr ail safle gorau (ac eithrio’r canlyniadau yn erbyn y tîm a ddaw yn y chweched safle) yn cymhwyso’n awtomatig ar gyfer y rowndiau terfynol, tra bod yr wyth tîm arall a ddaw yn ail yn cystadlu yn y gemau ail-gyfle. Bydd enillwyr y pedair gêm dau gymal (cartref ac oddi cartref) hefyd yn mynd i’r rowndiau terfynol. Nid yw Cymru erioed wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol y gystadleuaeth Dan 21, ond fe wnaethon nhw gyrraedd y gemau ail-gyfle yn 2009.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now