CYMRU U21 FLASHBACK

Armenia U21 0-0 Cymru U21

Degawd yn ôl - Armenia dan 21 0-0 Cymru dan 21 - 15 Tachwedd 2011 - Yerevan, Armenia

Dechreuodd ymgyrch ragbrofol tîm Brian Flynn ym Mhencampwriaeth Dan 21 UEFA 2013 gyda buddugoliaeth 1-0 dros Andorra. Yna, daeth buddugoliaeth dros Montenegro, cyn i’r tîm golli’r gêm nesaf yn eu herbyn, yn ogystal â cholli yn erbyn y Weriniaeth Tsiec cyn mynd i Yerevan i herio Armenia 10 mlynedd yn ôl i’r wythnos hon. Roedd Armenia eisoes wedi colli yn erbyn y Weriniaeth Tsiec rai dyddiau’n flaenorol yn yr un stadiwm, ac roeddent yn awyddus i wneud iawn am hynny.

Dechreuodd Cymru yn gryf gyda Tom Bradshaw, Billy Bodin a Jonny Williams yn dod yn agos at sgorio, cyn i’r eilydd Elliott Chamberlain ac Elliott Hewitt ill dau ddod yn agos iawn at sgorio hefyd. Ond dychwelodd y gwynt i hwyliau’r tîm cartref, ac roedd yn rhaid i Chris Maxwell gamu i’r adwy i atal dwy gôl gan Artak Edigaryan yn hwyr yn y gêm.

Profodd i fod yn ymgyrch rwystredig i Gymru wrth i Armenia ennill y gêm nesaf 1-0 yn Wrecsam y mis Awst dilynol cyn iddynt gael eu curo’n dda o 5-0 yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yn eu gêm olaf. O’r herwydd, daeth tîm Flynn yn bedwerydd yn y grŵp, er iddynt hawlio 10 pwynt o’u wyth gêm. Y Weriniaeth Tsiec oedd enillwyr y grŵp ond methu â chael lle yn y rowndiau terfynol oedd hanes y tîm, ar ôl colli yn y gemau ail gyfle yn erbyn Rwsia.

Tîm 21 Cymru XI: Chris Maxwell (gôl-geidwad), Kieron Freeman, Ashley Richards (capten), Lee Lucas, Danny Alfei (Troy Brown 59), David Stephens, Jake Taylor, Elliott Hewitt, Tom Bradshaw, Billy Bodin, Jonathan Williams (Elliott Chamberlain 72).

Eilyddion heb eu defnyddio: David Cornell (gôl-geidwad), Joe Walsh, Adam Henley, Jon Meades, Rob Ogleby.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×