JACK VALE

ARWR YR HATRIC

Sgoriodd yr ymosodwr Jack Vale hat-tric syfrdanol dros dîm dan 21 Cymru yn y gêm 4-0 yn erbyn Bwlgaria yn Sofia yn ôl ym mis Medi ac yn ddiweddar, siaradodd â'r wasg am ei lwyddiant. 

Sgoriodd gyda'i droed dde, ei droed chwith a'i ben, a chafodd ganmoliaeth am ei allu, gan ddangos cymaint sydd i ddod gan un o’n sêr nesaf.

“Dw i wastad yn mwynhau chwarae i ffwrdd gyda Chymru,” esboniodd blaenwr Blackburn Rovers a ymunodd â’r clwb o’r Seintiau Newydd. “Yn amlwg roedd sgorio’r hatric yn dda i mi yn bersonol ac yn dda i fy hyder i. Dwi’n meddwl mai'r peniad i gwblhau’r hatric oedd fy hoff gôl. Dim ond ar ôl y gêm wnes i sylweddoli mod i wedi sgorio’r hatric perffaith, pan ddywedodd un o’r hogiau wrtha ’i, felly ro’n i wrth fy modd am hynny. Dw i’n credu mai fy nhad yn bennaf wnaeth ennyn fy niddordeb mewn pêl-droed, yn ogystal â fy mrawd, gan mai ef oedd pêl-droediwr y teulu i ddechrau. Dw i wedi mwynhau byth ers hynny.”

Yn y cyfamser, roedd y rheolwr Paul Bodin yn awyddus i ganmol perfformiad ei ymosodwr pan siaradodd â'r wasg fis diwethaf. “Roedd yn fygythiad go iawn,” esboniodd. “Mae’n chwaraewr gwych, mae’n dal i ddysgu ac mae ganddo botensial mawr, ond os bydd yn perfformio fel y gwnaeth yn erbyn Bwlgaria, bydd yn chwaraewr galluog iawn, iawn. Os bydd yn parhau i chwarae i’r safon yma, bydd ganddo ef, a ni, ddyfodol disglair iawn.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×