Tîm Dan 21 Y SWISTIR

DOD I ADNABOD Y RHEOLWR

Mauro Lustrinelli

Position Rheolwr

Age 45

Height 173cm

Club Y Swistir

Mauro Lustrinelli

Mae Lustrinelli’n gyn-ergydiwr a dreuliodd ei yrfa ddomestig gyfan yn y Swistir, ac eithrio cyfnod byr gyda chlwb Sparta Prague yn y Weriniaeth Tsiec.

Treuliodd Lustrinelli y rhan fwyaf o'i gyfnod fel chwaraewr gyda chlwb yn ei dref enedigol, Bellinzona, gan chwarae 164 gêm rhwng 1994 a 2001. Rhwng 2005 a 2008, chwaraeodd Lustrinelli 12 gêm ryngwladol dros ei wlad, yn ogystal â chwarae dros y Swistir yng Nghwpan y Byd FIFA 2006 yn y rowndiau terfynol yn yr Almaen. Er mai prin oedd ei amser ar y cae yn y rowndiau terfynol, llwyddodd i gynorthwyo gôl, yn ei gyfraniad olaf i'r tîm cenedlaethol. Dechreuodd ei yrfa hyfforddi gyda’i gyn-glwb FC Thun lle treuliodd ddau gyfnod byr fel rheolwr dros dro cyn cymryd yr awenau fel rheolwr tîm dan 21 y Swistir yn 2018, a chamu i fwlch Heinz Moser.

Read More
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×