Tîm Dan 21 y Swistir
Tîm Dan 21 y Swistir
Cynhaliwyd y gêm gyntaf yn Sion yn ôl ym mis Medi gydag Alex Jankewitz, Jan Kronig, Felix Mambimbi a Zeki Amdouni yn sgorio gôl yr un. Yn yr ail gêm rai dyddiau yn ddiweddarach, dechreuodd Gabriel Barès ar y sgorio cyn i gôl gan Mambimi a dwy gôl gan Amdouni sicrhau’r fuddugoliaeth.
Nesaf, daeth her anoddach fyth yn erbyn yr Iseldiroedd yn Lausanne ym mis Hydref, ond sgoriodd Noah Okafor ddwywaith er mwyn rhoi’r tîm ar y blaen ar ôl 49 munud. Ond daeth ymateb cadarn gan yr Iseldiroedd diolch i Joshua Zirkzee i hawlio cyfran o'r pwyntiau. Er gwaethaf y siom, aeth y Swistir i Sofia ar gyfer eu pedwaredd gêm a hawlio buddugoliaeth 1-0 yn erbyn Bwlgaria diolch i gôl gan Kastriot Imeri. Mae wedi bod yn ddechrau cryf i ymgyrch y Swistir, a’r goliau wedi dod gan amrywiaeth o sêr Lustrinelli.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now