Hanes

Tîm Dan 21 y Swistir

Mae’r Swistir wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Pencampwriaethau dan21 UEFA ar bedwar achlysur, ac fe welwyd eu perfformiad gorau ddegawd yn ôl yn 2011, pan gyrhaeddodd y tîm y rownd derfynol dan adain y rheolwr Pierluigi Tami.

Serch hynny, colli o 2-0 i Sbaen oedd eu tynged bryd hynny. Dyma'r 24ain ymgyrch ragbrofol dan 21 y mae'r Swistir wedi cymryd rhan ynddi, gan gymhwyso am y tro cyntaf yn 2002 fel enillwyr eu grŵp. Y Swistir oedd yn cynnal rowndiau terfynol Dan 21 y flwyddyn honno, ac fe ddaethant yn ail yn eu grŵp, er gwaethaf gorfod wynebu’r Eidal, Lloegr a Phortiwgal. Ond colli 2-0 yn erbyn Ffrainc yn Basel oedd eu hanes yn y rownd gynderfynol.

Llwyddodd y tîm i gymhwyso unwaith yn rhagor ar gyfer y rowndiau terfynol yn 2004, ond gan fethu ag ennill yr un o’u gemau gan golli i’r Almaen a Sweden, a dod yn gyfartal o 2-2 yn erbyn Portiwgal. Yn dilyn cyrraedd y rownd derfynol yn 2011, ni lwyddodd y tîm i gyrraedd y rowndiau terfynol eto tan 2021, pan gynhaliwyd y twrnamaint yn Slofenia a Hwngari yn gynharach eleni. Er i’r iddynt hawlio buddugoliaeth drawiadol 1-0 dros Loegr yn eu gêm agoriadol, diolch i gôl gan Dan Ndoye, cawsant eu trechu gan Groatia a Phortiwgal, ac ni lwyddodd y Swistir i fynd heibio’r gemau grŵp.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×