Tîm Dan 21 Y SWISTIR
Mae Jankewitz yn chwaraewr canol cae dawnus i’r Swistir, ac fe gododd drwy rengoedd ieuenctid Southampton ar ôl symud i’r clwb yn 2018 o Servette.
Bachodd y penawdau yn syth bin wrth ddechrau i’r clwb am y tro cyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr, neu’r Premier League, ym mis Chwefror eleni pan gafodd ei anfon oddi ar y cae yn erbyn Manchester United ar ôl cwta dau funud. Dychwelodd Jankewitz i’r Swistir yn ystod yr haf, gan ymuno â Young Boys am ffi anhysbys. Mae wedi chwarae dros ei wlad ym mhob oedran o lefel dan 15 i lefel dan 21, gan sgorio yng ngêm agoriadol yr ymgyrch ragbrofol dan 21 bresennol wrth i’r tîm drechu Gibraltar 4-0.