FC CYMRU – Rhifyn yr Ewros

Ewro 2016 – Cystadleuaeth i drawsnewid meddylfryd cenedl

Dydy’r atgofion o Ewro 2016 byth yn methu â chodi gwên ar wyneb pob aelod o’r wal goch.

Mae gan bob cefnogwr a deithiodd i Ffrainc yr haf arbennig hwnnw ei stori unigryw ei hun a fydd yn cael ei hadrodd dro ar ôl tro, a bydd y delweddau eiconig o’r dathliadau lu a’r torcalon terfynol yn erbyn Portiwgal yn diffinio cyfnod bythgofiadwy yn ein hanes rhyngwladol. Does dim ond angen sôn am Bordeaux, Gwlad Belg, Chris Coleman a Hal Robson-Kanu i’n cludo ni nôl i’r haf a oedd yn ddim ond breuddwyd bell i’r cenedlaethau a daeth o’n blaenau. Hir yw pob ymaros, a’r cyfan werth pob eiliad. Cawsom ni ddim o’n siomi!

Mae Harry Wilson a David Brooks yn ddau y mae disgwyl iddyn nhw chwarae rhan bwysig i Gymru yn yr Ewros eleni. A hwythau yn eu harddegau yn 2016, teithiodd Wilson i Ffrainc fel cefnogwr, gan gefnogi’r tîm mewn het fwced ac un o’i grysau Cymru Dan 21. Gwyliodd Brooks y cyfan ar y sgrin wrth fwynhau gwyliau yn Magaluf. Roedd chwaraewyr fel Neco Williams, Ben Cabango, Ethan Ampadu, Dylan Levitt ac eraill sydd wedi chwarae i’r tîm cyntaf ers yr wythnosau gwefreiddiol hynny dal i fod yn yr ysgol wrth i dîm Coleman gipio calonnau Cymru.

 

I genedlaethau blaenorol, roedd pêl-droed rhyngwladol a chefnogi Cymru yn gymysgedd o rwystredigaeth a siom. Yn aml fe ddaethon ni o fewn trwch blewyn, ac roedd gwylio pob twrnamaint o bell ers 1958 yn rhan naturiol o ddilyn ffawd y tîm cenedlaethol, a phawb wedi hen dderbyn hynny. Weithiau, roedd colledion llawn cywilydd ac ymgyrchoedd anobeithiol yn cynnwys ambell fflach o obaith yn eu plith, ond buan iawn y byddai realiti yn dychwelyd eto, ynghyd â’n disgwyliadau isel. Hon oedd ein Cymru ni, ond roedd ein ffydd mewn dyfodol disgleiriach yn cynnal ein cariad diamod.

 

Ond fe newidiodd rhywbeth yn ystod ymgyrch Ewro 2016. Yn fwyaf sydyn, roedd cyfiawnhad dros y credu wrth i chwaraewyr fel Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen fynd benben â’r gorau a oedd gan Ewrop i’w gynnig, a dangos y gallai Cymru gystadlu. Roedd y fuddugoliaeth 1-0 dros Wlad Belg ym mis Mehefin 2015 yn gam enfawr tuag at wireddu ein breuddwyd. Roedd y llanw’n troi, a Stadiwm Caerdydd dan ei sang pan oedd Cymru’n cystadlu. Ac yn gefn i’r cyfan, gartref ac oddi cartref, oedd y Wâl Goch gadarn. Ac fe wnaeth y llwyddiant adael argraff ddofn a chadarnhaol ar Gymru.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae dros 20 o chwaraewyr newydd wedi chwarae i’r tîm cyntaf, ac erbyn hyn mae’r genhedlaeth hon yn cysylltu Cymru â llwyddiant y ddwy ymgyrch Ewros ddiwethaf. Fe wnaeth y rhwystredigaeth o golli allan ar Gwpan y Byd 2018 ein synnu ni, er mai dyma fydden ni wedi’i ddisgwyl yn naturiol yn yr oes a fu. Rydym ni bellach yn ennill gemau gyda goliau hwyr gan fod ein chwaraewyr yn credu y dylai Cymru fod yn llwyddiannus, a’r safon a osodwyd yn haf 2016 yw beth sy’n ddisgwyliedig o geidwaid presennol y crysau coch erbyn hyn.

Mae’r ffordd y bu i Ewro 2016 ysbrydoli cenedl yn stori gyfarwydd erbyn hyn. O chwaraewyr ifanc ledled Cymru sydd bellach yn efelychu’r llwyddiant yr oedden nhw’n dyst iddo’r haf hwnnw, i’r cefnogwyr a'r gwirfoddolwyr sy’n buddsoddi eu hamser a’u harian yn y gobaith o brofi rhywbeth arbennig trwy gymryd rhan yn y gêm sy’n dân yn eu calonnau. Ond fe wnaeth hefyd ysbrydoli carfan bresennol Cymru, a tra bod Ewro 2016 yn gam i’r dirgel i’r rheiny aeth o’u blaenau, mae’r disgwyliadau uchel nawr wedi’u datgan. Disgwyliadau o lwyddiant sydd gennym ni erbyn hyn, a gyda’n gilydd, rydym ni’n gryfach.

 

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×