Partneriaeth y Loteri ​​​​​​ 

Llwyddiant Partneriaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer Cynghreiriau JD Cymru

Cystadlu yw conglfaen Cynghreiriau JD Cymru, ond yr her o chwarae pêl-droed cystadleuol trwy gydol y pandemig yw’r prawf anoddaf i'n clybiau ei wynebu dros y tymor diwethaf.

Ond mae pecyn cymorth gwerth £750,000 gan y Loteri Genedlaethol, a sefydlwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ac sy’n cael ei hwyluso gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, wedi galluogi pob un o’r 12 clwb yn Haen 1 i gael cyllid hanfodol er mwyn parhau i weithredu, gyda JD Cymru Premier yn gorffen pob gêm yn y tymor domestig yn sgil hynny. Bydd clybiau Haen 2 yn cael eu cyllid pan fyddant yn dychwelyd i chwarae yn nhymor 2021/22.

Un o’r clybiau hynny a wnaeth elwa o’r pecyn oedd Barry Town United. Enw adnabyddus yn y gêm ddomestig, llwyddodd y clwb i gyrraedd y gemau ail-gyfle er nad oedden nhw'n gallu croesawu cefnogwyr trwy’r giatiau trwy gydol yr ymgyrch gyfan. “Mae’r pwysau oddi ar y cae ar wirfoddolwyr mewn clybiau Haen 1 wedi bod yn sylweddol,” eglurodd Swyddog Cyfryngau Barry Town United, Hannah Chesterfield wrth FC Cymru. “Roedd y Protocolau Dychwelyd i Chwarae yn gadarn, ac roedd angen iddyn nhw fod wrth gwrs, ond i glybiau sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, mae’n ofyn mawr i ni.

“Roedd hi’n wych gweld y Loteri Genedlaethol, gêm y mae llawer ohonom ni’n cymryd rhan ynddi bob wythnos, yn rhoi yn ôl i bêl-droed ar adeg lle mae clybiau angen y cymorth fwy nag erioed. Mae’r refeniw mae clybiau wedi’i golli yn sylweddol, ac yn rhywbeth nad oedden ni wedi cynllunio ar ei gyfer ar ddechrau’r tymor. Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un wedi dychmygu y byddwn ni heb ein cefnogwyr ac y byddai ein clwb ar gau am y rhan fwyaf o’r tymor.

“Roedd y Protocolau Dychwelyd i Chwarae a ddatblygwyd gan CBDC yn hanfodol er mwyn cadw ein carfan yn ddiogel a sicrhau eu bod yn cadw ei gilydd yn ddiogel yn ystod cyfnod mor anodd. I’n chwaraewyr, un o’r agweddau anoddaf yw nad ydyn nhw'n gallu rhannu ystafell newid. Y stafell newid yw canolbwynt y bwrlwm, lle mae perthnasau yn datblygu. Fe wnaethon ni hurio portacabins, sy’n fusnes drud iawn, ond does dim cystal â chwaraewyr yn bod gyda’i gilydd mewn un ardal.

“Yn anad dim, mae’r garfan yn gwybod eu bod wedi bod yn hynod ffodus i chwarae pêl-droed mewn adeg lle mae miloedd wedi methu â gwneud hynny. Mae wedi rhoi ffocws i lawer ohonyn nhw yn ystod cyfnodau anodd oddi ar y cae. Ond fel clwb, mae’r ffaith fod chwaraewyr a staff yn rhoi eu hunain a’u teuluoedd mewn perygl bob wythnos, wrth hyfforddi ac wrth chwarae a chynrychioli ein clwb pêl-droed, wedi bod ar flaen ein meddyliau ac am hynny, byddwn ni’n fythol ddiolchgar.

“Un peth nad oeddwn i wedi’i ddisgwyl i ddod allan o’r tymor hwn oedd pa mor agos wnaeth y clybiau a CBDC gydweithio i ddod o hyd i ffordd trwy’r adegau anodd. Er ein bod yn cystadlu’n ffyrnig yn erbyn ein gilydd ar y cae am 90 munud bob wythnos, oddi ar y cae rydym ni wedi dod yn ffrindiau ac yn sicr dwi wedi gwneud cyfeillion am oes oherwydd pa mor agos rydym ni gyd wedi gweithio gyda’n gilydd. Prif nod ein gweithgor oedd gwneud yn siŵr, ar ddiwedd y tymor, y byddai dal gennym ni 12 clwb a fyddai’n fyw ac yn iach, ac fe wnaeth cyllid y Loteri Genedlaethol ein helpu ni i sicrhau hynny yn y pen draw. 

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×